top of page

Digwyddiadau Pontio

  • Aug 4
  • 1 min read

Awdur: Pontio


Theatr Byd Bach: Pleth

Dydd Sadwrn 12 Medi, 11am + 2pm

Pontio, Bangor


Mae Pleth yn cyfuno symud, sain foley ac adrodd stori weledol gyda defnydd awgrymol o BSL, gan wahodd cynulleidfaoedd i fyd ymgollol, cyfoethog lle mae cydbwysedd delicet y goedwig yn dod yn fyw.

Addas i bawb. Perfformiad di-eiriau yw hwn. Bydd eiliadau o sain uchel a grewyd gan artist foley i adeiladu tensiwn.



***

Byd Oshi: Green Fingers

Dydd Gwener 18 Medi, 10am + 1pm

Dydd Sadwrn 19 Medi, 10.30am + 1pm

Pontio, Bangor

Tocynnau: £8 (gofalwyr am ddim)


Profiad theatr ysgafn ac amlsynhwyraidd yw Greenfingers ar gyfer pobl ag anableddau dysgu dwys a lluosog. Wedi'i greu gan Oshi's World, mae'n cyfuno sain, golau, gwead, symudiad a cherddoriaeth mewn amgylchedd hamddenol ac ymatebol lle mae’r gynulleidfa’n ymgysylltu yn ei ffordd ei hun.



***

Ockham's Razor - Collaborator

Nos Sadwrn 26 Medi, 7.30pm

Pontio Bangor


Yn cynnwys dau berfformiwr, ffrâm grog a llwyfan: dyma sioe am greu a chyfaddawdu. Dyma archwiliad gwamal, hynod gorfforol a chalonogol o droedio perthynas a’r trafodaethau sy'n gysylltiedig â chreu pethau.

Sain Ddisgrifiad Saesneg ar gael


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page