top of page

Galwad Agored am Bobl Greadigol Ymylol

Awdur: Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru


Dyddiad Cau: Hanner nos, 9 Hydref


Deall ein gorffennol i adnabod ein presennol: Gwahoddiad i newyddiadurwyr a phobl greadigol ymylol i ymateb i ddeunydd o archif Darlledu Cymru


Rydym angen eich llais!


Un o amcanion Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru yw creu a chynnig cyfleoedd i’r rheini ohonom a allai fod wedi’n gwthio i’r cyrion neu wedi’n cau allan gan y diwydiant cyfryngau. Dyna pam rydyn ni wedi partneru ag Archif Ddarlledu Cymru ar brosiect cyffrous a fydd yn cyhoeddi gwaith gan dri o’n haelodau.


Archif Ddarlledu Cymru yw’r gyntaf o’i bath yn y DU, yn olrhain bron i ganrif o ddarlledu. Mae’n dwyn ynghyd ddeunydd o gasgliadau Archif Sgrin a Sain BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales, S4C a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy gadw, catalogio, a digideiddio’r deunydd hwn a’i gyflwyno ar wefan y gellir ei chwilio’n llawn, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Ddarlledu Cymru wedi ymrwymo i wneud y casgliad hwn yn hygyrch i bawb.


Y syniad yw y bydd y broses mor gynhwysol a chefnogol â phosibl. Mae’n agored i unrhyw un sy’n aelod o Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru. Mae aelodaeth am ddim a gallwch ymuno trwy lenwi’r ffurflen gyflym ar ein gwefan.


Bydd hwn yn gyfle gyda thâl i newyddiadurwyr a phobl greadigol ymylol i ymateb i ddeunydd o Archif Ddarlledu Cymru mewn tri chomisiwn ar wahân. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn dilyn cwblhau’r prosiect hwn, gan arddangos y gwaith a chynnig cyfle i gyfarfod a dysgu oddi wrth aelodau eraill. Bydd penderfyniad ymwybodol i ddewis ymgeisydd o ogledd, canolbarth a de Cymru i adlewyrchu ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau daearyddol.

 

Sut bydd y darnau terfynol yn edrych ac yn teimlo?

  • Os byddwch yn llwyddiannus, gallai eich gwaith fod ar ffurf fideo, sain neu draethawd – ac er y dylai eich cais cychwynnol fod yn Gymraeg neu Saesneg, gall y darn terfynol fod mewn unrhyw iaith. Mae Cymru yn wlad amlieithog ac rydym am arddangos hyn.

  • Os dewiswch ysgrifennu darn, rydym yn meddwl rhywle rhwng 5000-7000 o eiriau. Os yw mewn fformat fideo mae’n debyg y byddai’n 10 i 30 munud o hyd. Os dewiswch ymateb ar ffurf sain, fel pennod podlediad neu rywbeth tebyg, gallai fod yn 30-50 munud o hyd. Unwaith y byddwch wedi’ch comisiynu, byddwn yn amlwg yn cytuno ar siâp eich darn terfynol.

  • Dylai’r traethawd / fideo / sain / podlediad ymateb i ddarn a ddewiswyd gan Archif Ddarlledu Cymru, sy’n gartref i ddegawdau o archifau dogfen a newyddion gan brif ddarlledwyr Cymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dylai’r ymatebion ysgogi’r meddwl a dal drych gonest i fywyd yng Nghymru. Bydd pob syniad yn cael ei ystyried, ond gallech ymateb gyda:

    • Chymhariaeth o sut mae pethau wedi newid yng Nghymru, rhwng y gorffennol a’r presenol

    • Sut mae deunydd o’r archif yn eich ysgogi i ystyried eich profiad neu’ch syniadau personol eich hun

    • Dadansoddiad o wahaniaethu neu gamliwio hanesyddol yn y cyfryngau Cymreig sydd angen ei ddadadeiladu

    • Darn yn dysgu o’r gorffennol er mwyn dychmygu ein dyfodol cyfunol yng Nghymru


Pa gefnogaeth fydd ar gael?

Os cewch eich comisiynu, byddwch yn cael eich cefnogi gan Olygydd ymroddedig o dîm Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, a fydd yn gweithio gyda chi i sicrhau bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch i’ch helpu i gynhyrchu eich gwaith gorau posibl.


Byddwch hefyd yn gallu mynychu gweithdy (lleol i chi) a gynhelir gan Archif Ddarlledu Cymru er mwyn pori’r archif a dod o hyd i’r deunydd yr hoffech ymateb iddo. Mae rhai clipiau ar gael ar-lein a bydd aelod o dîm o Archif Ddarlledu Cymru hefyd yn eich helpu i gael mynediad at yr archif gyfan fel y gallwch ddewis clip yr hoffech ymateb iddo yn eich darn.


A fyddaf yn cael fy nhalu?

Wrth gwrs. Mae’n bwysig i ni fod newyddiadurwyr a phobl greadigol ymylol yn cael eu talu’n deg am eu gwaith, felly bydd pob ymgeisydd llwyddiannus yn derbyn £1000 am eu darn, i’w dalu ar ôl ei gwblhau (h.y. ar ôl y drafft terfynol).


Beth yw'r amserlen?

  • Mae cyflwyniadau’n agor ar 9 Medi

  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau fydd 9 Hydref am hanner nos

  • Byddwn yn hysbysu’r ymgeiswyr llwyddiannus ar 30 Hydref

  • Cyhoeddir y casgliad ym mis Chwefror 2025

  • Yn dilyn cwblhau’r casgliad, cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru yn arddangos y gwaith yn ardaloedd Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd


Sut mae gwneud cais?

I wneud y broses ymgeisio mor hawdd a theg â phosibl, rydym wedi dewis clip o’r archif ar hap i bawb ymateb iddo. Gallwch weld y clip yma a gofynnwn i chi ymateb iddo mewn 200 gair neu recordiad fideo neu sain 2 funud.


Dylai hyn roi syniad inni o arddull a dull eich gwaith – felly byddai gwreiddioldeb a dyfnder yn ogystal â rhywbeth a fydd yn dal sylw’r darllenydd neu’r gwyliwr yn wych.


Cofiwch geisio edrych y tu ôl i’r clip ei hun, ac nid yn unig beth sydd yno, ond beth sydd ddim yno a beth mae hyn yn ei olygu.


Llenwch y ffurflen Google hon erbyn hanner nos 9 Hydref (bydd gennych yr opsiwn i uwchlwytho’ch ymateb).


Cofiwch, dim ond i aelodau Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru y mae’r cyfle hwn ar agor, felly defnyddiwch y cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych i ymuno â’r rhwydwaith. Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n aelod eto, mae am ddim i gofrestru a dim ond ychydig funudau mae’n ei gymryd!


Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad ar y 30ain o Hydref, a byddwn yn anelu at gynnig adborth cefnogol i unrhyw un nad yw eu syniad wedi’i gomisiynu.


Os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i wneud y broses hon yn fwy hygyrch i chi, rhowch wybod i ni trwy e-bostio silvia@inclusivejournalism.cymru a byddwn yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i’r ateb gorau.


Bydd y darnau terfynol yn cael eu cyhoeddi ar-lein ar wefannau Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Byddant hefyd yn cael eu harddangos mewn cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus.


Related Posts

See All

댓글


댓글 작성이 차단되었습니다.
bottom of page