Galwad agored: Cosi & Scratch
- Apr 15
- 1 min read
Awdur: Pontio
Dyddiad Cau: Dydd Sul 3 Mai, am hanner nos
Mae Cosi & Scratch yn ôl ar gyfer 2026!
A oes gennych chi syniad newydd sy’n cosi ac yn dymuno amser i’w ddatblygu? Mae Pontio yn falch iawn o gynnig cyfle cyflogedig i 4 artist i weithio a dangos darn newydd o waith byw mis Hydref. Gall y gwaith fod mewn unrhyw genre byw e.e. Theatr, Syrcas, Dawns, Cabaret, Comedi, Sioe Gerdd neu unrhyw arddull fyw arall. Mae yna groeso i geisiadau sy’n gyfuniad o ffurfiau.
Cewch amser, gynulleidfa a chyflog i brofi a datblygu syniad newydd. Penllanw’r cyfnod datblygu bydd perfformiad Scratch yn Stiwdio Pontio gyda chynulleidfa fyw.
Rydym yn edrych am artistiaid sydd yn byw yng Ngogledd Orllewin Cymru neu sydd â chysylltiadau cryf gyda’r ardal. Rydym yn awyddus i feithrin a chefnogi crëwyr theatr, dawnswyr, ysgrifenwyr, perfformwyr lleol.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan artistiaid ar unrhyw gyfnod o’u gyrfa.
Manylion llawn a sut i wneud cais: https://www.pontio.co.uk/cy/digwyddiadur/cosi-scratch-2026



