Awdur: Ffrindiau Gig Cymru
Nos Wener 22 Tachwedd, 7yp
Mae'n bleser gennym gyhoeddi y bydd Adwaith yn arwain ein lansiad Ffrindiau Gig Abertawe yn Elysium ddydd Gwener 22 Tachwedd.
Mae tocynnau'n £10 i'r cyhoedd, £5 i Ffrindiau Gig. Gweler isod am fanylion.
Band ôl-pync Cymraeg o Gaerfyrddin ydy Adwaith. Maen nhw wedi chwarae dwy set o fri yn Glastonbury, wedi cefnogi Manic Street Preachers ac Idles, ac yn 2022 nhw oedd yr artist cyntaf i ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith. Rydyn ni'n hoff iawn o gerddoriaeth Adwaith, ac mae llawer o Ffrindiau Gig wedi eu gweld nhw'n fyw felly rydyn ni wrth ein boddau eu bod nhw'n arwain ein gig lansio!
Mae Ffrindiau Gig Cymru yn paru oedolion ag anabledd dysgu (ac/neu awtistiaeth) gyda ffrind gwirfoddol sy'n rhannu'r un diddordebau fel eu bod nhw’n gallu mwynhau cerddoriaeth fyw, diwylliant a gweithgareddau cymdeithasol eraill gyda'i gilydd.
Mae'r prosiect yn delio ag unigrwydd trwy gyfeillgarwch, diwylliant a hwyl. Mae'n helpu i wella lles, hyder ac annibyniaeth ac yn helpu oedolion ag anabledd dysgu i aros i fyny'n hwyr a mwynhau bywyd nos - pan nad oes llawer iawn o gymorth â thâl ar gael.
Rydyn ni bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr Ffrindiau Gig newydd. Darganfyddwch fwy ar www.gigbuddies.cymru, e-bostiwch gigbuddies@ldw.org.uk neu ffoniwch 029 2068 1160.