Awdur: Elysium
Pwy: Artistiaid 18+ wedi'u leoli yn y DU
Pryd: 30 Mai – 12 Gorffennaf 2025
Lleoliad: Oriel Elysium, Abertawe, Cymru, DU
Manylion: Mae Oriel Elysium yn falch o gyflwyno, Lleisiau o’r Cyrion, arddangosfa grŵp sy’n gwahodd artistiaid ac awduron sy’n hunan-adnabod yn niwrowahanol i archwilio a mynegi eu profiadau synhwyraidd, emosiynol, seicolegol neu gorfforol fel pobl niwrowahanol, ac os dymunant, herio'r naratifau a'r credoau negyddol sy'n amgylchynu eu niwroamrywiaeth.
Sut i wneud cais:
Anfonwch os gwelwch yn dda:
Cynnig ar 1 ochr A4 fel dogfen PDF neu Word (uchafswm o 500 gair, nid oes lleiafswm)
Os nad ydych yn gyfforddus yn ysgrifennu , gallwch anfon ffilm neu recordiad byr yn egluro eich syniadau gyda dolenni i enghreifftiau ar-lein.
AC
Os ydych yn creu gwaith newydd ar gyfer y sioe – Hyd at 6 llun JPEG, neu ddolenni i bortffolio o’ch gwaith. Bydd y lluniau/darnau hyn yn cael eu defnyddio fel cyfeiriad ar gyfer yr hyn y byddwch yn ei greu.
Os ydych chi’n defnyddio gwaith blaenorol – Hyd at 6 llun JPEG, neu ddolenni i bortffolio o’ch gwaith yr hoffech chi gael eich dewis ar gyfer y sioe.
Os oes unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu’r y broses o ymgeisio, mae croeso i chi ofyn.
E-bostiwch eich cynnig ac atodiadau atom yn info@elysiumgallery.com
Taliad:
Bydd y 10 artist llwyddiannus yn cael ffi artist o £500. Mae hyn yn cynnwys teithio, deunyddiau a.y.y.b
Dyddiad Cau: 1af Mawrth 2025