top of page

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn edrych am Ymddiriedolwyr newydd

  • 2 hours ago
  • 3 min read

Sefydliad arweiniol cenedlaethol sy’n codi llais dros artistiaid, perfformwyr, a phobl greadigol Byddar ac anabl ledled Cymru yw Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC). Rydym ar genhadaeth i dorri lawr rhwystrau cymdeithasol, hybu cydraddoldeb, a sicrhau bod pobl anabl yn arwain y ffordd yn y celfyddydau a’r sector diwylliannol. Rydym yn gweithio i warantu bod y bobl sy’n creu, arwain, a mwynhau celf yng Nghymru yn adlewyrchu amrywiaeth wirioneddol ein cenedl.


Er mwyn sicrhau bod DAC yn parhau i fod yn ddynamig, perthnasol a cynhwysol, rydym wastad yn arloesi ffyrdd newydd o weithio. Wedi ein gwreiddio yn y Model Cymdeithasol o Anabledd, rydym yn cefnogi artistiaid sy’n gweithio ym mhob ffurf gelfyddydol, celf weledol, cerddoriaeth, theatr, llenyddiaeth, a chyfryngau digidol. Gan yrru newidiadau systemig trwy greu celf o safbwynt profiad byw o anabledd, rydym yn cael gwared â’r rhwystrau sy’n wahardd pobl o’r celfyddydau. Ochr yn ochr gyda hyn, rydym yn darparu eiriolaeth, cyngor a hyfforddiant i hybu cydraddoldeb ledled y sector. O safbwynt y model cymdeithasol o anabledd mae’r gwaith yma i gyd yn cael ei gwblhau, sef model sy’n haeru bod y rhwystrau cymdeithasol ac agweddau negyddol sy’n anablu pobl, nid amhariadau!


Ymddiriedolwyr


Rydym yn edrych am bobl angerddol i ymuno a’n Bwrdd Ymddiriedolwyr i helpu llywio Celfyddydau Anabledd Cymru wrth i ni symud ymlaen i un o’r cyfnodau mwyaf cyffrous yn hanes y sefydliad. Rydym wastad yn edrych i ymestyn yr amrywiaeth o brofiadau byw (personol a proffesiynol), safbwyntiau diwylliannol, a chefndiroedd artistig ar ein Bwrdd.


Rydym yn croesawu ceisiadau o unigolion Byddar, anabl, a niwrowahanol, ynghyd a chynghreiriaid. Mae gennym ddiddordeb yn enwedig i glywed o bobl anabl ifanc ac artistiaid ar ddechrau eu gyrfa. 


Ein Bwrdd Ymddiriedolwyr sy’n gyfrifol yn gyffredinol am sicrhau bod ein helusen yn cael ei reoli’n effeithiol, moesegol a cynaliadwy. Trwy fod yn Ymddiriedolwr, bydd gennych chi’r cyfle i:

  • Yrru Cydraddoldeb Systemig: Defnyddio eich mewnwelediad a sgiliau i siapio tirwedd ddiwylliannol fwy hygyrch ledled Cymru.

  • Cynyddu eich Arweiniad: Datblygu profiad llywodraethant a sgiliau strategol ar gyfer taith bersonol a proffesiynol eich hun.

  • Codi Llais Dros Hawliau Creadigol: Eiriol yn angerddol dros ddiwylliant anabledd a chynrychiolaeth gyfartal.


Ymrwymiadau’r Bwrdd & Cefnogaeth Mynediad


  • Amserlen Cyfarfodydd: Mae’r Bwrdd yn cyfarfod pedair gwaith y flwyddyn (gan gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol), ac yn cwrdd am ddydd strategol mewn person tua unwaith pob dwy flynedd. 

  • Fformat Ar-lein: Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal gydag ystyriaeth hygyrchedd, dros Zoom gyda chapsiynau a’r opsiwn o unrhyw anghenion neu addasiadau mynediad ychwanegol.

  • Costau: Mae pob rôl ymddiriedolwr yn wirfoddol, ond mae costau rhesymol gan gynnwys trafnidiaeth, cymorth mynediad, cymorth personol, a chostau gofal plant yn cael eu had-dalu yn ôl yr angen. 


Elusen gofrestredig wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Celfyddydau Anabledd Cymru.


Sut i Ymgeisio


Byddwn ni wrth ein bodd i glywed ohonoch os oes gyda chi diddordeb bod yn rhan o gyfnod nesaf Celfyddydau Anabledd Cymru. Rydym yn croesawu ceisiadau mewn fformat ysgrifenedig, fideo, neu sain. Croeso i’ch cais bod yn iaith Gymraeg.


Cyflwynwch amlinelliad o pam hoffwch ymuno a’n Bwrdd, yr hyn sy’n eich atynnu i weledigaeth Celfyddydau Anabledd Cymru, a sut bydd eich profiad byw a proffesiynol yn ychwanegu i’n genhadaeth. Anfonwch hwn i:

  • Ebost: post@disabilityarts.cymru

  • Sgwrs anffurfiol: Os hoffech gael mwy o wybodaeth am yr hyn sy’n ymwneud a rôl ymddiriedolwr, cysylltwch â’n tîm trwy’r ebost uchod i drefnu sgwrs gyda’r Cyfarwyddwr neu’r Gadair.

  • Proses: Bydd ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfarfod cyfeillgar gyda’r Ymddiriedolwyr presennol a’r Cyfarwyddwr. Bydd yr Ymddiriedolwyr newydd yn ymuno’r Bwrdd yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol DAC ar y 30ain o Fedi 2026.


Dyddiad cau: 10fed o Fedi 2026

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page