Prentis Technegol: Canolfan Mileniwm Cymru
- 6 days ago
- 4 min read
Awdur: Canolfan Mileniwm Cymru
Dyddiad cau: 14/07/2026
Fel un o leoliadau celfyddydol mwyaf eiconig y DU, rydym yn falch bod ein llwyddiant wedi’i seilio ar ein hymrwymiad i feithrin talent a chreu cyfleoedd ystyrlon i bobl dyfu o fewn y diwydiannau creadigol.
Rydym yn cefnogi talent sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru drwy brofiadau dysgu sy'n newid bywydau, gweithdai proffesiynol, a phrentisiaethau technegol. Rydym yn cyflwyno’r rhaglenni hyn yma yn y Ganolfan – ein rôl mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru – a thrwy rwydwaith o sefydliadau diwylliannol ledled Cymru, gan roi sylfaen a rhwydwaith amrywiol i brentisiaid wrth iddynt gychwyn ar eu gyrfaoedd.
Rydym bellach yn gyffrous i gynnig prentisiaeth newydd o fewn ein Hadran Dechnegol. Mae'r tîm hwn yn darparu cefnogaeth dechnegol hanfodol ar draws Theatr Donald Gordon, Stiwdio Weston, gofod Cabaret, a mannau perfformio eraill, gan helpu i ddod â chynyrchiadau'n fyw drwy grefft llwyfan, goleuo, sain, a chydlynu cefn llwyfan.
Mae ein Prentisiaid Technegol (Llwyfan) presennol eisoes wedi cael profiad ymarferol gyda chynyrchiadau teithiol mawr fel Mary Poppins, Tina: The Musical, a The Bodyguard. Maent hefyd wedi cefnogi sioeau hunangynhyrchiedig Opera Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys Blades of Glory a The Flying Dutchman, gyda'r potensial ar gyfer cyfleoedd i deithio yn y dyfodol.
Mae ymuno â ni fel prentis yn golygu bod yn rhan o dîm medrus a chefnogol a chyfrannu at gynyrchiadau o'r radd flaenaf wrth ddatblygu'r profiad ymarferol a'r hyder sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y theatr.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cynllun prentisiaeth ewch i;
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
Prif nod y brentisiaeth hon yw eich helpu i feithrin sgiliau arbenigol a throsglwyddadwy trwy ddysgu ymarferol sy’n seiliedig ar waith, mewn amgylcheddau cynhyrchu byw. Byddwch yn ennill profiad ymarferol ar draws meysydd technegol allweddol - gan gynnwys Crefft Llwyfan, Sain a Goleuo - gyda chyfle i archwilio adrannau eraill fel Rheoli Llwyfan a Gwisgoedd. Bydd y profiad yma yn sicrhau eich bod yn datblygu dealltwriaeth gyflawn o sut mae cynyrchiadau proffesiynol yn dod yn fyw.
Mae rhagoriaeth dechnegol yn ganolog i lwyddiant parhaus CMC. Mae ein gallu i ddenu artistiaid, cwmnïau a chynyrchiadau teithiol cenedlaethol a rhyngwladol yn dibynnu ar ansawdd, dibynadwyedd ac ymatebolrwydd ein gwasanaethau technegol. Fel prentis, byddwch yn cyfrannu'n uniongyrchol at ein henw da, gan gefnogi ein huchelgais i barhau i fod yn ddewis cyntaf o ran lleoliad ar gyfer cyflwynwyr digwyddiadau a pherfformiadau.
Yn ystod eich wythnos waith, byddwch yn cwblhau gwaith cwrs, asesiadau, a modiwlau hyfforddi strwythuredig sy'n ofynnol i gyflawni eich cymhwyster Lefel 3. I'r rhai nad ydynt eto wedi cyflawni gradd C TGAU neu uwch mewn Mathemateg, Saesneg, neu TG, byddwn yn darparu gweithdai sgiliau hanfodol i'ch helpu i ennill ardystiad cyfatebol a sicrhau bod gennych y sylfeini sydd eu hangen ar gyfer gyrfa dechnegol lwyddiannus.
Dros gyfnod y rhaglen 12 mis, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai proffesiynol ac ardystiadau sy’n gydnabyddedig o fewn y diwydiant. Mae'r rhain yn cynnwys Gwobr Efydd ABTT, ynghyd â chymhwyster Profion PAT a CRISP IOSH, ymhlith eraill. Mae’n bosib y bydd cyfle i chi hefyd fynychu sioe fasnach yn y gwanwyn neu'r haf, gan gynnig cipolwg gwerthfawr ar y technolegau, yr offer a ‘r tueddiadau diweddaraf o fewn y diwydiant.
Yn ogystal â hyfforddiant ffurfiol, byddwch yn cael profiad ymarferol ar amrywiaeth o gynyrchiadau a gynhelir yn y Ganolfan. Yn amodol ar yr amserlen, gall ymgeiswyr llwyddiannus ddisgwyl gweithio ar sioeau mawr fel Matilda: The Musical (RSC) a Cinderella (Matthew Bourne), gan ddarparu cyfle prin i ddysgu gan gwmnïau teithiol mawr a thimau creadigol sefydledig.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch wedi datblygu sylfaen dechnegol gref, portffolio o brofiad go iawn, a chymwysterau proffesiynol a fydd yn cefnogi eich camau nesaf yn y diwydiant - boed hynny'n hyfforddiant pellach, gwaith rhyddgyfrannol, neu rôl o fewn adran dechnegol.
Gofynion Allweddol:
* Bydd angen i ymgeiswyr fod ar gael i ddechrau ar y 5ed o Hydref ar gyfer yr Wythnos Sefydlu.
* Rhaid i ymgeiswyr fod ar gael i fynychu diwrnod asesu cyn cael eu hystyried ar gyfer cyfweliad dilynol.
Bydd oriau gwaith y brentisiaeth hon yn amrywio o wythnos i wythnos, yn dibynnu ar ofynion y cynyrchiadau rydych chi'n eu cefnogi. Mae'n bwysig nodi nad rôl draddodiadol 9-5 yw hon. Mae gwaith theatr yn aml yn golygu dechrau'n gynnar, gorffen yn hwyr, a gweithio shifftiau achlysurol ar benwythnosau neu gyda'r nos. Rydym yn annog ymgeiswyr yn gryf i ystyried a yw'r dull yma o weithio yn addas i'w ffordd o fyw, eu hymrwymiadau a’u lles. Dylech hefyd feddwl yn ofalus am eich trefniadau teithio ac a yw'r daith yn ymarferol ac yn gynaliadwy i chi drwy gydol y rhaglen.
Mae'r meini prawf a ddefnyddir i asesu ymgeiswyr yn fwriadol hyblyg, gan ein bod yn cydnabod bod gan bobl sydd yn cychwyn eu gyrfaoedd mewn theatr dechnegol ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i chi ddangos dealltwriaeth glir o theatr dechnegol cefn llwyfan ac egluro pa feysydd sydd o ddiddordeb mwyaf i chi a pham. Bydd angen i chi hefyd ddangos y gallwch ddysgu'n effeithiol a chyfathrebu'n dda ag eraill. Fel rhan o sefydliad mawr, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â phobl o gefndiroedd, safbwyntiau a hunaniaethau amrywiol, felly mae sgiliau rhyngbersonol cryf yn hanfodol.
Yn olaf, rydym yn chwilio am unigolion sy’n gallu dangos agwedd bositif tuag at weithio’n broffesiynol, parodrwydd i ddysgu sgiliau newydd, ac ymrwymiad i ymgymryd â’r gwaith cwrs gofynnol. Bydd brwdfrydedd, dibynadwyedd, a diddordeb gwirioneddol mewn theatr dechnegol yn allweddol i'ch llwyddiant yn y rôl hon.



