top of page

Swydd Wag: Cefnogaeth Greadigol, Llenyddiaeth Cymru

  • cerys35
  • 5 days ago
  • 2 min read

Awdur: Llenyddiaeth Cymru


Swydd rhan-amser (oriau hyblyg, cyfartaledd o 22.5 awr yr wythnos), cytundeb cyfnod parhaol

I ddechrau cyn gynted â phosib

Cyflog: £24,500 pro rata


Dyddiad Cau: Dydd Llun 5 Mai 2025

Cyfweliadau: Dydd Iau 15 Mai 2025


Lleoliad: Rydym yn dîm cydweithredol sy’n gweithio ledled Cymru, gyda swyddfeydd yn Llanystumdwy a Chaerdydd. Rydym yn gweithio mewn modd hybrid ac mae angen presenoldeb yn un o'r swyddfeydd o bryd i'w gilydd, ond gellir cyflawni cyfran fawr o'r rôl hon wrth weithio gartref. Os gallai mynychu’r swyddfa eich atal rhag gwneud cais am unrhyw reswm, anfonwch e-bost atom i drafod eich sefyllfa ymhellach.


Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol sydd wedi ymrwymo i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydym yn asesu ceisiadau ar gryfder potensial, a byddwn yn cymryd camau cadarnhaol trwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n cwrdd â gofynion addasrwydd y rôl, ac sy’n adnabod yn ei llythyr cais eu bod heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddol.


Rôl Cefnogaeth Greadigol


Ydych chi am gael eich troed yn nrws y sector llenyddol? A ydych chi wedi profi rhwystrau’n cael mynediad i’r celfyddydau a diwylliant o’r blaen? Ydych chi'n angerddol am lenyddiaeth a'i photensial i drawsnewid bywydau? Yna efallai y bydd y swydd hon yn berffaith i chi!


Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â thîm deinamig a chreadigol. Byddwch yn cefnogi’r gwaith o weinyddu a chyflawni prosiectau a rhaglen ehangach Llenyddiaeth Cymru, sy’n anelu at greu Cymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau.


Mi fydd y rôl hon yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Artistig a rheolwyr prosiectau creadigol i ddysgu o’u harbenigedd wrth i ni weithio i sicrhau bod yr awduron a’r cymunedau rydym ni’n cefnogi ledled Cymru yn elwa o’n rhaglenni. Byddwch yn cefnogi prosesau ymgeisio a chyflwyno cynlluniau blaenllaw megis ein rhaglen datblygu awduron, Cynrychioli Cymru, a Sgwennu’n Well sy’n cefnogi datblygiad ymarferwyr llenyddol.


Bydd y gwaith hwn yn cynnwys dylunio holiaduron i gasglu adborth, a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau i'n gweithgareddau. Byddwch hefyd yn cysylltu ag awduron a hwyluswyr, gweinyddu ceisiadau a dylunio astudiaethau achos i gyfleu effaith ein gwaith.



Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page