Ymgynghoriad ar-lein i rieni a gofalwyr byddar, anabl a niwrowahanol sy’n gweithio yn y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru
- Jul 28
- 1 min read
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn gweithio gyda PiPA Cymru (Rhieni a Gofalwyr yn y Celfyddydau Perfformio) i nodi heriau, a strategaethau posibl i gefnogi teithio yng Nghymru i'r rhai sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Bydd y canfyddiadau’n llywio Tŵlcit PiPA Cymru ar gyfer y sector.
Os ydych chi'n rhiant a/neu’n ofalwr byddar, anabl neu niwrowahanol sy'n gweithio ym maes y celfyddydau perfformio yng Nghymru, ymunwch â'n trafodaeth ar-lein a rhannwch eich profiadau o deithio yng Nghymru i'n helpu i wneud y Tŵlcit yn fwy defnyddiol, perthnasol a hygyrch.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad: Dydd Iau 30 Gorffennaf
Amser: 11.00am–12.30pm
Fformat: Ar-lein, ar Zoom
Edrychwch ar Dŵlcit PiPA Cymru cyn y sesiwn, os gwelwch yn dda.
Bydd eich adborth yn llywio'n uniongyrchol y gwaith o ddiweddaru'r Tŵlcit ar-lein rhad ac am ddim, i gefnogi arferion gweithio a theithio mwy cynhwysol ledled Cymru. Bydd yn cael ei lansio yn Hydref 2026.
Rhagor o wybodaeth am y prosiect: PiPA Cymru
Hygyrchedd
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion mynediad wrth gofrestru. Gallwn ddarparu:
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Cyfieithu byw i'r Gymraeg
Capsiynau awtomatig Zoom
Mae croeso i blant a babanod ymuno
Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion mynediad eraill y gallem ni eu cefnogi.
P.S. Methu dod? Gallwch chi barhau i rannu eich profiadau a helpu i lunio Tŵlcit PiPA Cymru diwygiedig. Edrychwch ar y Tŵlcit cyfredol a chwblhewch yr holiadur byr i wneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed.



