top of page

Aelod DAC Rightkeysonly yn rhyddhau sengl annibynnol, dRip

  • cerys35
  • Nov 27, 2024
  • 1 min read

Updated: Nov 28, 2024


Mae artist EDM, Rightkeysonly, wedi rhyddhau ei sengl annibynnol, dRip. Mae’r trac yn cymryd agwedd ymosodgar anymddiheurol at gerddoriaeth electronig, wedi’i hysbrydoli gan tun Monster's a’i phrofiadau o dyfu i fyny fel gofalwr ifanc.


Instagram - Rightkeysonly


Mae sengl annibynnol nesaf Rightkeysonly allan nawr. Mae dRip yn ymwneud â gadael i fynd a gwella o'n blynyddoedd iau.


Yn ddim ond deg oed, Keys oedd prif ofalwr ei mam. Wrth gydbwyso’r ysgol a llywio bywyd fel person ifanc Anabl, yn aml byddai’n dod adref yn bryderus am ba sefyllfaoedd y byddai’n dod ar eu traws yn y sefyllfa ansefydlog magwyd ynddi.


“Mae’r trac dawns ymosodgar a miniog hwn yn archwilio sut brofiad oedd cario’r profiadau hynny i mewn i fywyd fel oedolyn. Mae wedi bod yn gyfle i fynegi fy hun yn agored ac archwilio’r brwydrau a ddaeth gyda bod yn ofalwr, rhywbeth nad yw llawer o bobl ifanc yng Nghymru bob amser yn cael y cyfle i’w wneud.”

-Rightkeysonly


Mae Rightkeysonly yn artist EDM, sy'n adnabyddus am ddod â beats arbrofol a baselines trwm i sector cerddoriaeth Cymru. Hi hefyd yw prif gantores band Liquid D’n’B Keyz Collective a sylfaenydd Amplifying Accessibility. Mae Keys yn defnyddio cerddoriaeth i rymuso artistiaid Anabl eraill, fel hi, gyda'r gobaith o weld sector mwy cynhwysol un diwrnod.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page