AmCam4: Galwad agored am ffilmiau byrion yn dogfennu gweithgaredd amgylcheddol cymunedol
Am
Dyddiad cau: 7 Hydref
Os hoffwch gael sgwrs am eich cais, cysylltwch gydag am@pyst.net.
Beth yw AmCam?
Mae AmCam yn ŵyl ffilmiau ar wefan Am. Mae x3 rownd AmCam wedi eu cynnal hyd yn hyn, gyda 12 ffilm yn cael eu comisiynu hyd yn hyn. Yn y rownd yma, bydd 4 ffilm o dan y thema Amgylchedd yn cael eu comisiynu. Cefnogir AmCam gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Am beth y dylai fy ffilm fod?
Rydym yn chwilio am ffilmiau sydd yn dogfennu gweithgaredd amgylcheddol ar lefel gymunedol.
Ym mha fformat fydd fy ffilm?
Bydd angen i’r ffilm fod drwy gyfrwng y Gymraeg neu Saesneg, ac o 7-15 munud o hyd. Gellir cyflwyno’r ffilmiau ar ffurf MP4 neu MOV.
Beth yw’r broses ymgeisio?
Gallwch ymgeisio drwy gwblhau’r ffurflen yma. Y dyddiad cau yw Hydref 7 Mae modd gwneud cais ar ffurf fideo neu sain – cysylltwch gydag am@pyst.net i drafod hyn, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau pellach. Byddwn yn anelu i ateb ceisiadau o fewn mis. Ni fyddwn yn cynnig adborth ar geisiadau.
Sut bydd y ffilmiau yn cael eu dethol?
Bydd y ffilmiau yn cael eu dethol gan banel annibynnol.
Erbyn pryd bydd angen i mi gyflwyno fy ffilm?
Bydd angen i chi gyflwyno eich o ffilm o fewn 4 mis i ddyddiad y cytundeb.
Sut bydd y ffilmiau yn cael eu darlledu?
Bydd y ffilmiau yn cael eu ddarlledu am y tro cyntaf ar Am a’u hyrwyddo ar ein cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyron ac mewn gofodau hysbysebu eraill. Bydd Am yn cysylltu gyda chi i drafod dyddiad darlledu ar ôl i chi gyflwyno eich ffilm.
Bydd angen i mi isdeitlo fy ffilm?
Bydd y ffilmiau yn cael eu hisdeitlo yn ddwyieithog gan gwmni Cyfatebol, a felly mae gofyn i chi gyflwyno eich ffilm heb unrhyw isdeitlau. Bydd Am yn talu am y gost isdeitlo. Gellir trafod steil isdeitlau eich ffilmiau gydag aelod staff Am ar ddechrau’r broses.
Be fydd y taliad ar gyfer y ffilm?
Byddwch yn derbyn £500 (+TAW os yn berthnasol) tuag at gostau creu eich ffilm. Bydd £350 yn cael ei dalu i chi pan rydych yn arwyddo’r cytundeb, a’r £150 sydd yn weddill pan mae’r ffilm yn cael ei chyflwyno.
Sut mae’r hawliau yn gweithio?
Bydd hawliau’r ffilm yn gorffwys gyda’r gwneuthurwr ffilm. O arwyddo cytundeb, byddwch yn cadarnhau bod yr holl hawliau ar gyfer bob elfen o gynnwys y ffilm wedi eu sicrhau ar gyfer darllediad ar Am, ac na fydd unrhyw hawlio yn digwydd gan neb arall. Bydd y ffilm yn cael ei ddarlledu am y tro cyntaf ar Am, a bydd yn byw yno yn ecsgliwsif yn ddigidol am gyfnod o fis ac yna gallwch ei rannu fel y dymunir.
Mwy o wybodaeth: https://www.ambobdim.cymru/profile-content/amcam-4-canllawiau/



