top of page

Artist Proffesiynol i Gydweithio â Disgyblion Ysgol Glan Morfa, Caerdydd

  • cerys35
  • 8 hours ago
  • 1 min read

Awdur :Ysgol Glan Morfa

Dyddiad cau: 12/12/2025


Rydym yn awyddus i sicrhau bod pob dosbarth yn cael profiadau unigryw o wahanol fathau o gelf, wedi’u seilio ar llais, hunaniaeth a hanes ein hardal. Bydd y gweithgareddau hyn yn annog creadigrwydd, cysylltiad â’n cymuned, ac yn dathlu diwylliant lleol.


Os oes gennych syniadau neu hoffech gyfrannu, cysylltwch â’r ysgol!


Beth fyddwch yn ei wneud?

  • Cydweithio â disgyblion i ddatblygu syniadau creadigol.

  • Arwain gweithdai ysbrydoledig i ymgysylltu â phlant o wahanol oedrannau.

  • Creu gwaith celf terfynol i’w arddangos yn yr ysgol.


Pwy ydym yn chwilio amdano?

  • Artist profiadol gyda diddordeb mewn addysg a chydweithio.

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu gweithio gyda phlant.

  • Profiad mewn creu gwaith celf cyhoeddus neu brosiectau cymunedol yn fantais.


Manylion y cyfle:

  • Lleoliad: Ysgol Glan Morfa

  • Hyd y prosiect: [6 diwrnod - diwrnod yr un gyda disgyblion blynyddoedd 1-6) £250 y diwrnod.

  • Tâl: £1500 (Cyfanswm)


Sut i wneud cais? Anfonwch:

  • CV byr

  • Enghreifftiau o’ch gwaith

  • Datganiad byr (pam rydych chi’n addas ar gyfer y prosiect a beth allwch gynnig)


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page