Artist y Mis: Jordan Sallis
- cerys35
- Apr 1
- 2 min read

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.
Artist y Mis am fis Ebrill yw Jordan Sallis, artist gweledol sy'n creu gwaith celf fel ffurf fynegiannol o ryddhad emosiynol.
"Fel arlunydd paganaidd, mae gen i gysylltiad ysbrydol cryf â natur y mae fy ymarfer yn anelu at ei anrhydeddu. Rydw i'n credu gwaith celf sy'n amlygu'r hydwythdedd a breuder o'r meddwl bod dynol, a denu sylw i'r cysylltiad bod dynol, neu'r ddiffyg cysylltiad, i'r byd naturiol. Mae fy ymarfer celfyddydol yn ffordd o ymdopi ac yn ffordd i bobl eraill cael gweld y byd o emosiynau ffiniol.

Mae gen i Anhwylder Personoliaeth Ffiniol Dawel ac Anhwylder Pryder Cyffredinol, sydd wedi cael effaith dwfn ar fy mywyd a fy ngwaith celf i. Rydw i'n teimlo emosiynau yn angerddol ac maen nhw'n gallu newid mewn ennyd, weithiau yn newid nôl ac ymlaen nifer o weithiau trwy'r dydd. Mae symptomau corfforol a poenus yn aml yn dod o deimlo'r emosiynau dwfn yma.
Mae pryder yn teimlo fel bod ogof wag, oer, ym mhwll dy stumog wag.
Mae gwrthodiad yn teimlo fel bod rhywun wedi bwrw'r aer allan o’ch brest a ni allwch gael eich gwynt yn ôl.
Mae bradychiad yn teimlo fel cael eich trywanu yn y cefn a chael sudd lemwn asidig yn cael ei arllwys i mewn i'r toriad.
Ond mae hefyd yn golygu y gallaf deimlo teimladau positif gyda'r un faint o ddwyster.

Pan rydw i'm teimlo cariad, rydw i'n arllwys pob rhan o fy enaid a bodolaeth i mewn i'r berthynas.
Pan rydw i yn y byd naturiol, rydw i'n teimlo cymaint o ryfeddod mae'n teimlo fel petai jyst fi a'r byd sy'n bodoli.
Pan rydw i'n meddwl yn angerddol am syniadau, rwy'n teimlo'n galonnog, fel y gallaf ei wneud a bod yn unrhyw beth.
Gall byw gyda'r natur anrhagweladwy o emosiynau pwerus a newidiol fod yn heriol ac o ganlyniad, mae gennyf gasgliad o greithiau, rhai ohonynt yn emosiynol a rhai ohonynt yn gorfforol. Rydw i ar drugaredd fy emosiynau cryf p'un a wyf yn ei hoffi neu beidio. Gan ei fod yn fendith ac yn felltith, mae'n caniatáu i fi ddelweddu fy nheimladau trwy waith celf mewn ffurf carthydd o ryddhad.

Rydw i'n atolygu ar unrhyw un a phob un i geisio creu celf fel ffurf fynegiannol o ryddhad emosiynol.
Byddai’n hunanol ohonof i beidio â gweiddi am y buddion anhygoel yr wyf wedi’u profi o ganlyniad i’r arfer iachaol yma.”
--
Gallwch weld mwy o waith celf Jordan ar ei gwefan a chyfryngau cymdeithasol:
Gwefan: https://www.msblackink.co.uk
Instagram: https://www.instagram.com/msblackink/
Facebook: https://www.facebook.com/MsBlackInk/