top of page

Artist y Mis Rhagfyr: Rebecca F. Hardy

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.


Artist y Mis ar gyfer mis Rhagfyr yw Rebecca F. Hardy, artist gweledol amlddisgyblaethol wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru.


“Mae’r cydbwysedd rhwng ychydig a gormod, yr hyn sy’n bleserus yn weledol ac anhrefn llwyr, yn rhywbeth rydw i’n chwarae gydag yn gyson.”

Mae fy ngwaith yw archwilio defnyddiau a'r perthynas rhwng arwyneb a gwrthrych, lliw, haenau, a phatrymau. O ddarluniadau i brintiau sgrin, ffotograffiaeth, fideo, celf fyw, ffurfiau cerfluniol a gosodweithiau.


Mae ymchwil a defnydd o anatomeg ddynol, gwrthrychau domestig a bob hyn a hyn fy nghyflwr meddwl wedi mewnblannu mewn i'r gwaith. Mae gwneud printiau sgrin, cerfluniau a gosodweithiau yn gweithredu fel dysglau a throsiadau ac yn cydfodoli ag amrywiaeth o ddeunyddiau a’r gofod mae ynddo dros dro.


Mae fy mherthynas â chreu yn drai a thrai ond dros y 4 blynedd diwethaf rwyf wedi adfywio fy ymarfer creadigol ac mae fy nwyd am ddysgu yn amlwg. Cyn Covid-19 cefais grant Creu bach gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer fy mhrosiect  MEWNrhwng. Roedd hwn yn gydweithrediad gyda 3 artist arall Jenny Cashmore, Najia Bagi a Gemma Lowe. Cyfarfod ar-lein a rhannu syniadau ac egni creadigol ein gilydd. Buom yn arddangos arddangosfa amlddisgyblaethol yn Oriel CARN, Caernarfon ac Oriel Elysium, Abertawe yn 2021. Hwn oedd y catalydd yr oeddwn i angen er mwyn creu celf weledol ac ysgrifennu, gan arddangos cerfluniau, ymyriadau bach a ffotograffiaeth yn ogystal â barddoniaeth.


Derbyniais yr Eirian Llwyd Honorary Memorial Award am wneud printiau yn 2022, arddangos gwaith celf ochr yn ochr ag enillydd 2022 Sarah Gavey, enillwyr blaenorol a chasgliad Eirian Llwyd o waith celf yng Nghanolfan Grefft Rhuthun. Roedd ennill fy ngwobr yn rhoi'r hyder i fi a’r cadarnhad yr oeddwn i angen i gredu ynof fy hun fel artist.


Yn yr un flwyddyn cefais fy nerbyn i arddangos yng Ngwobr Gelf DAC 2022 a deithiodd ledled Cymru mewn 6 lleoliad, g39, Amgueddfa Cwm Cynon Galeri, Tŷ Pawb, Oriel Davies, Glynn Vivian. Roedd llawer o leoliadau nad oeddwn i wedi arddangos mewn o’r blaen, felly roedd cael y cyfle hwn yn wirioneddol yn eithriadol i mi.


Roedd fy arddangosfa unigol gyntaf mewn sefydliad yn Pontio, canolfan celfyddydau perfformio ym Mangor ar ddiwedd 2023, roedd y fwrsariaeth fechan a gefais gan gylchgrawn a-n ar ddechrau’r flwyddyn yn fy ngalluogi i archwilio a datblygu fy ngwaith celf ar gyfer yr arddangosfa. Roedd ‘Yr Hyn Sy’n Pylu / Of That Which Fades’, sef corff newydd o waith, printiau sgrin ar bren haenog, lluniadau finyl a gosodweithiau yn cyflwyno gweithrediadau cynnil o haenau a datganiadau cryf o liw a ffurf. Mae'r ffurfiau haniaethol yn deillio o'm hastudiaeth a'm dealltwriaeth fy hun o fy ymennydd dyslecsig / niwroamrywiol. Yn arddangos am y tro cyntaf ymson ysgrifennais a darllenais hefyd gyda delweddau symudol. Rhannu rhai teimladau a barn amrwd a gonest gyda'r cyhoedd am sut dwi'n gweld y byd o fy ymennydd. Mae’r cydbwysedd rhwng ychydig a gormod, yr hyn sy’n bleserus yn weledol ac anhrefn llwyr, yn rhywbeth rydw i’n chwarae gydag yn gyson.





Ers mis Mai eleni rwyf wedi dechrau creu eto ac roeddwn i'n ffodus i dderbyn cyllid egin gan Gyngor Gwynedd a Llywodraeth y DU ar gyfer fy mhrosiect ‘Dy Werth / Your Worth’. Cloddi'n ddyfnach, ymchwilio, arbrofi gyda rhai o'r cwestiynau a oedd wedi codi wrth ysgrifennu fy ymson am oedi, syndrom imposter a'n hunanwerth. Bydd casgliad o fy ngwaith celf, brintiau sgrin, ysgythriadau a dry-points newydd o ‘Dy Werth’ yn cael eu harddangos yn Oriel Ysbyty Gwynedd rhwng Rhagfyr 2024 a Mawrth 2025.


Mwy o wybodaeth am waith Rebecca:




Related Posts

See All
bottom of page