Ballet Cymru: Tymor Ar Gyfer Newid
- cerys35
- Sep 14
- 1 min read
Awdur: Ballet Cymru
Dydd Llun, 22 Medi 2025 18:00 - 20:00 BST. Doors at 5:30yp

Mae Ballet Cymru a Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn eich gwahodd i TYMOR AR GYFER NEWID, sef digwyddiad cynhwysol, rhad ac am ddim yn stiwdios Ballet Cymru sy'n archwilio hygyrchedd a dyluniad cyffredinol ym myd bale a dawns.
Mae'n bleser gennym gadarnhau mai ein siaradwr gwadd ar gyfer y digwyddiad hwn fydd Suzie Birchwood.
Mae Suzie Birchwood yn Ddawnswraig ac Addysgwr Dawns sy'n arbenigo mewn amrywiaeth a chydraddoldeb ym myd dawns. Mae Suzie 'nawr yn gweithio i ledaenu ymagwedd gyffredin at ddawns ymhlith y farchnad ehangaf posibl, a hynny trwy hyfforddi a mentora artistiaid, athrawon a choreograffwyr anabl.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL), capsiynau, sain ddisgrifiad, a'r Gymraeg.
I archebu lle, cofrestrwch trwy Eventbrite.
Cyflwynir Tymor ar gyfer Newid gan Ballet Cymru mewn partneriaeth â Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru.



