Gwyl Take a Chance Festival
- cerys35
- Sep 3
- 2 min read
Awdur: Take a Chance Festival
27/28 Medi
Spit and Sawdust
Uned B, Heol Pont Afon Rhymni, Caerdydd CF23 9AF
Curadwyd gan Rory Duckhouse
Dewch draw am benwythnos o gelf a chyfarfyddiadau damweiniol yn Spit and Sawdust.
Bydd gŵyl Take a Chance yn ymgorffori siawns ym mhob ffurf, o gynulleidfaoedd yn cymryd rhan mewn digwyddiad celf, i ddod ar draws gweithiau celf ar hap.
Beth i'w ddisgwyl?
💥 Bydd gweithiau celf gan Gweni Llwyd ar wasgar ar hyd a lled y safle fel y gall cynulleidfaoedd ddod o hyd iddyn nhw.
✨ Bydd presenoldeb seremonïol absẃrd yn meddiannu’r lleoliad diwydiannol hwn mewn perfformiad gan Jen Taylor.
🌈 Gweithdy lliwio brethyn gyda'r Aurora Trinity Collective – ewch ati i greu darnau clymu a llifo a chydweithio mewn gwaith celf tecstilau ar raddfa fawr.
✏️ Arlunio byw amgen gydag Amy Edwards – dewch i gwrdd â'ch delwedd eich hun, ond nid fel y mae go iawn.
🔤 Gwneud arwyddion ar hap gyda Bruce Williams o stiwdio Dim Problem – gadewch i siawns arwain eich neges.
🌀 Creadigaethau clai gyda Jasmine Wood – trochwch eich dwylo a dewch i greu rhywbeth ar hap.
🎰 Gemau Siawns – Rhowch gynnig arni ac ennill cerdyn crafu wedi'i argraffu gan Gweni Llwyd neu ddarn arian unigryw gan Rory Duckhouse.
✍️ Y Teipydd Cyhoeddus – Rhowch dri gair ar hap i Adam Holton a cherddwch i ffwrdd gyda stori un dudalen wedi'i llunio ar eich cyfer chi yn unig.
♿ Mynediad i BawbRydyn ni’n gwneud y lle hwn yn groesawgar ac yn agored i bawb:
Mynediad gwastad ledled y safle
Arwyddion clir a hygyrch
Dehongliad Iaith Arwyddion Prydain ddydd Sadwrn (1–5pm)
Siawns am gêm? Dewch draw i fwynhau!



