Cult Cymru: Gweminar Cerddoriaeth
- cerys35
- 7 days ago
- 1 min read
Awdur: Cult Cymru
Dydd Mercher, 17 Medi 2025 19:00 - 21:00 BST
Datblygwyd y cwrs hwn gyda chymorth Pete Bayliss, Cynrychiolydd Dysgu Undeb y Cerddorion.
Mae CULT Cymru yn rhaglen sgiliau a gefnogir trwy Cronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru.
Iaith y sesiwn - Saesneg
Gweminar Cerddoriaeth:
Ar gyfer pwy?
Unrhywun sydd â diddordeb mewn ennill arian trwy gerddoriaeth.
Trosolwg:
Ymunwch â'r cyfansoddwr a chynhyrchydd Matthew Whiteside am sesiwn ymarferol ar sut i hybu eich cerddoriaeth; gan gynnwys popeth o hawliau a chynllunio cyllidebau i ddosbarthu digidol. Bydd Matthew yn eich tywys drwy'r broses gyda mewnwelediadau, cyngor, a gwersi a dysgwyd trwy ei brofiadau ef er mwyn eich helpu chi i osgoi problemau cyffredin, er mwyn i chi reoli ac ennill budd o'ch cerddoriaeth chi.
Amcanion:
Cyflwyniad cyffredinol i hybu cerddoriaeth yn yr oes fodern
Gosod cyllideb realistig (incwm a gwariant)
Paratoi ar gyfer sesiynau recordio
Sut i gael eich cerddoriaeth ar lwyfannau rhithwir
Yr hawliau a chofrestriadau sydd angen arnoch i gael eich talu yn y pen draw
Defnyddio'r dangosfwrdd artist cywir.
Erbyn ddiwedd y gweithdy, dylech ddeall y broses o sut i gael eich cerddoriaeth allan i'r byd i gyd.
Hyfforddydd - Matthew Whiteside
Mae Matthew Whiteside yn gyfansoddwr, cynhyrchydd, a chyfarwyddwr artistig sydd ag amrywiaeth eang o brofiad yn y byd cerddoriaeth, gan gynnwys cynhyrchu. Mae wedi bod yn rhan o bron i 20 albwm; gan gynnwys hunan-rhyddhau a'r label TNW. Matthew yw awdur 'Guidebook to Self-Releasing Your Music', sydd wedi derbyn canmoliant arbennig gan 'Sound on Sound'. Yn ogystal â’i waith creadigol, mae Matthew yn Is-Gadeirydd Pwyllgor Gweithredol Undeb y Cerddorion ac yn cadeirio Adran Ysgrifenwyr yr undeb.