top of page

Beth yw ein digwyddiadau Cwrdd misol?

Rydym yn defnyddio’r enw 'Cwrdd' oherwydd dyna yn union beth yw’r digwyddiad: cyfle i gwrdd lan ar gyfer bob aelod DAC!

 

Cynhelir Cwrdd bob dydd Mawrth cyntaf y mis o 5-6yp ar Zoom.

 

Mae’n gyfle i gwrdd ag aelodau DAC, rhannu eich gwaith, a chael sgyrsiau pwysig am gelfyddydau anabledd.


Mae gan y rhan fwyaf o’n digwyddiadau Cwrdd hefyd siaradwr gwadd, gan greu lle i ddysgu mwy am eu gwaith a’u profiadau nhw tra hefyd yn gallu rhannu eich gwaith a phrofiadau eich hun.

 

Mae gan ein holl ddigwyddiadau Cwrdd capsiynau a dehongliad IAP. Bydd y cyfieithydd yn cael ei restru ar bostiadau misol y digwyddiad. Rhowch wybod i ni beth yw eich gofynion mynediad pan fyddwch yn cofrestru – bydd ffurflenni cofrestru Zoom ar gyfer pob digwyddiad ar ein gwefan.

 

Rhowch wybod i ni pa bynciau yr hoffech i ni eu cynnwys. Gallwch gysylltu trwy e-bostio post@dacymru.com

5 views

Related Posts

See All

Comments


Commenting has been turned off.
bottom of page