Gŵyl dan arweiniad pobl Fyddar i bawb
05.09.24 – 08.09.24
Gŵyl yng Nghaerdydd dan arweiniad pobl fyddar yw Deaf Gathering Cymru, wedi’i chreu gan Ganolfan Gelfyddydau Chapter a’r artistiaid ac ymgynghorwyr creadigol byddar Jonny Cotsen a Heather Williams. Fe’i cynhelir 5-8 Medi 2024, ac mae’r dathliad pedwar diwrnod ar agor i bawb, ac yn adeiladu ar lwyddiant gŵyl Byddar gyda’n Gilydd y llynedd, gan gynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.
Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Cefnogir y rhaglen gyda Iaith Arwyddion Prydain, capsiynau byw, a chyfieithu ar y pryd o Iaith Arwyddion Prydain i Saesneg.
Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig pedwar diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ioga i theatr, o symposiwm i noson gomedi meic agored! Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau am ddim, gan ein bod ni am gadw’r ŵyl yn agored i bawb!
Ffeindiwch mwy o wybodaeth ac archebwch docynnau yma: https://www.chapter.org/seasons/deaf-gathering-2024
Comentários