Celfyddydau Anabledd Cymru yn derbyn Gwobr Arian yn Gymhwysedd Diwylliannol, Diverse Cymru
- 6 days ago
- 1 min read
Mae Celfyddydau Anabledd Cymru wrth eu bodd o fod wedi derbyn Gwobr Arian yng Nghynllun Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru.
"Mae'r Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol wedi helpu Celfyddydau Anabledd Cymru i sicrhau bod ein gwaith yn cynnwys pobl anabl o bob cymuned. Mae'r tîm wedi cael cefnogaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o'r ffordd y mae anabledd yn croestorri â hil, diwylliant a ffydd, ac i ystyried anghenion sy'n gysylltiedig â diwylliant a hunaniaeth ochr yn ochr ag anghenion mynediad. Mae ymgymryd â'r cynllun wedi ein helpu i ymgorffori dull croestoriadol ym mhob agwedd ein gwaith."

Mwy am y Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol a gweld Enillwyr Gwobrau 2026: https://diversecymru.org.uk/cultural-competence-award-winners-2026/



