Celfyddydau Aubergine Arts yn parhau â’i rhaglen greadigol am ddim cyfeillgar i bobl niwroamrywiol yng Nghaerdydd
Celfyddydau Aubergine
Mae Celfyddydau Aubergine yn parhau â’i raglen o weithdai, nosweithiau meic agored a digwyddiadau creadigol am ddim, sy’n gyfeillgar i bobl niwro-amrywiol yng Nghaerdydd gyda chymorth ail rownd o gyllid Create gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd y digwyddiadau yn cymeryd rhan yng Nghaffi Aubergine a mewn mannau celfyddydol a chymunedol eraill ar hyd y ddinas, gan greu gyfleoedd croesawgar i roi cynnig ar rywbeth creadigol, datblygu sgiliau, perfformio, neu’n syml dod draw i wrando.
Mae Aubergine CIC yn falch o gyhoeddi bod Celfyddydau Aubergine yn parhau â’i raglen o weithdai creadigol, nosweithiau meic agored a digwyddiadau am ddim, sydd wedi’u cynllunio gan gadw pobl niwro-amrywiol mewn golwg, ond sydd hefyd yn agored a chroesawgar i bawb.
Mae’r rhaglen yn dod ag artistiaid ô feysydd ysgrifennu, celfyddydau gweledol, crefft a pherfformio ac ymarferion creadigol eraill ynghyd. Mae’r gweithgareddau yn cymeryd lle yng Nghaffi Aubergine, ynghyd a digwyddiadau mewn mannau celfyddydol ein partneri led y ddinas.
Mae Noson Feic Agored reolaidd Aubergine dan ofal Frances Abigail Bolley, yn cynnig gofod hamddenol a chefnogol ar gyfer cerddoriaeth, barddoniaeth a mathau eraill o berfformio byw. Gall bobl berfformio, heb unrhyw bwysau i gymryd rhan. Gall ymwelwyr hefyd fwynhau amrywiaeth o brydau fegan, byrbrydau a diodydd wedi’w baratoi yng Nghaffi Aubergine.
Yn ogystal â’r nosweithiau meic agored, mae’r rhaglen yn cynnwys:
20fed Awst, 6pm–8pm: Croesbwytho gyda Mab Jones, Caffi Aubergine
Dewch i gael hwyl gyda ‘dafedd lliwgar a siapiau pren, a chreu cadwyn allweddi, llyfrnod neu addurniad wal i fynd adra ‘da chi. Mae’r gweithdy’n addas ar gyfer pob lefel, gan gynnwys dechreuwyr.
3ydd Medi, 6pm–8pm: Croesawu Amherffeithrwydd drwy Sgetsio Inc gyda Howl Hubbard, Caffi Aubergine
Gweithdy darlunio fyfyriol sy’n archwilio eich gwaith drwy marciau blêr ac anfwriadol, dim pensiliau na rhwbiwr yn cael eu caniatau!
17eg Medi, 6pm–8pm: Llên Gwerin Ffyngau: Creu Zine gyda Izzy McLeod, Caffi Aubergine
Archwiliwch fyd rhyfeddol ffwngi, darganfyddwch ychydig am lên werin Gymreig sy’n gysylltiedig â nhw a chrewch eich zines eich hun.
1af Hydref, 6pm–8pm: Barddoniaeth a Pherfformio gyda Rachel Helena Walsh, Caffi Aubergine
Gweithdy sy’n archwilio ysbrydoliaeth, ysgogiadau ysgrifennu a thechnegau perfformio ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu barddoniaeth a pherfformio gyda geiriau.
Cynhelir nosweithiau Meic Agored bob pythefnos ar 13 a 27 Awst ac ar 10 a 24 Medi 2026.
Mae Celfyddydau Aubergine hefyd yn gweithio gyda NoFit State Community Circus ar weithdai pellach. Mae’r dyddiadau a’r manylion yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd a byddent yn cael eu cyhoeddi ar wahân.
Bydd y rhaglen yn dod i ben gyda arddangosiad a fydd yn dod â gwaith a pherfformwyr o bob rhan o’r rhaglen ynghyd. Nid yw’r lleoliad, y dyddiad na’r amser wedi’u cadarnhau eto.
Dull sy’n gyfeillgar i bobl niwro-amrywiol
Mae hygyrchedd a chynhwysiant niwro-amrywiol wedi’u gwreiddio yn y rhaglen, yn hytrach na’u trin fel ychwanegiad.
Mae digwyddiadau yng Nghaffi Aubergine yn cynnig amgylchedd bach a chefnogol, gyda theganau ‘fidget’ a chlustffonau amddiffyn clyw ar gael, stori weledol, mynediad i gadeiriau olwyn a thoiled hygyrch.
Mae’r rhaglen wedi’w chynllunio i roi gwahanol ffyrdd i bobl gymryd rhan. Gall pobl roi cynnig ar rywbeth anghyfarwydd, datblygu diddordeb creadigol sydd ganddynt eisoes, perfformio o flaen cynulleidfa gefnogol neu fynychu heb unrhyw bwysau i gymryd rhan.
“Drwy raglen gelfyddydau’r llynedd, mi ddysgom bod ‘na gymuned o bobl greadigol niwro-amrywiol sydd wir yn edrych am gael lle a chyfle i allu mynegi eu celf, datblygu a chreu. Mae cymaint o ddoniau a thalentau yn ein cymuned; yr hyn sydd ar goll yw cyfleoedd hygyrchol i bobl niwro-amrywiol i rannu a meithrin yr hyn sydd gennym.
Mae cymaint o raglenni creadigol a fyddai o fudd i’r gymuned niwro-amrywiol ddim yn hygyrchol i ni. Nid ydym yn gwybod beth a ddisgwylir gennym, ac nid ydym yn gwybod beth i’w ddisgwyl. Pan nad ydym yn gwybod a fyddwn yn cael ein derbyn, neu a fydd ein hanghenion yn cael eu edrych arol, nid ydym yn teimlo yr allu i droi fyny.
Eleni rydym wedi cael y cyfle i gydweithio â lleoliadau a sefydliadau creadigol eraill, megis The Sustainable Studio, No Fit State, Porters, Theatr Sherman ac Ardour Academy. Mae hyn wedi ein galluogi i gynnig pethau fel gweithdai gwnïo a syrcas na allem eu cynnal yn ein caffi. Mae hyn hefyd wedi ein galluogi i gyflwyno ein cymuned i fannau a gweithgareddau newydd, ac i feithrin cysylltiadau na fyddent bosib wedi cael mynediad atynt fel arall.”
Frances Abigail Bolley, Rheolwr Rhaglen Aubergine Arts
Am yr artistiaid
Mae Mab Jones yn awdur ac artist sydd â phrofiad helaeth o hwyluso gweithdai. Yn ddiweddar, bu’n Artist Preswyl yn Makerspaces Llyfrgelloedd y Barri a Phenarth drwy ArcadeCampfa. Mae hi’n awdur ar wyth llyfr ac mae wedi dysgu yn Brifysgol Caerdydd, Nexus Literature and Arts, y Cultural Youth Olympiad a mwy.
Mae Howl Hubbard yn artist amlddisgyblaethol, cynullydd ac ymarferydd a mae ei waith yn archwilio natur a ymgorfforiad drwy gelfyddyd a gofal cymunedol. Nhw yw sefydlwr Lone Worlds a Garddio.
Mae Izzy McLeod yn gyfathrebwr gwyddoniaeth a hwylusydd celfyddydau cyfranogol sy’n canolbwyntio ar ecoleg queer a mycoleg. Mae eu gwaith yn archwilio ffwngi, ein cysylltiad â natur, hawliau LGBTQ+, cyfiawnder anabledd a llên gwerin Cymru drwy weithdai, teithiau cerdded a zines.
Mae Rachel Helena Walsh yn berfformiwr, artist a bardd Gwyddelig sydd wedi’i leoli yng Nghymru. Mae hi’n rhedeg Poetry For You ym Marchnad Caerdydd ac yn cyd-redeg Moonchild Poetry yn Porter’s, yn ogystal â gweithio ym meysydd celfyddyd fyw, radio, gair llafar, theatr a chlown.
Gyda chymorth cyllid Create gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch aubergine_cardiff a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr:
Dyddiad i’w nodi yn y dyddiadur – mae Caffi Aubergine hefyd yn cynnal PARTI PITSA DIWEDD YR HAF AM DDIM ddydd Sadwrn 5 Medi, rhwng 1pm a 5pm, yng Nghanolfan Gymunedol Cathays. Dewch i ffarwelio â’r haf gydag Aubergine. Ymlaciwch, gwnewch eich pitsas fegan eich hun o’ch dewis o gynhwysion, crêwch gelf a helpwch i siapio beth fydd Aubergine yn ei wneud nesaf. Nid oes angen unrhyw brofiad celf. Dim pwysau i ymuno â phopeth.



