top of page

Chapter Swydd Wag: Curadur Cynorthwyol (Celfyddydau Gweledol)

  • cerys35
  • Sep 29
  • 2 min read

Awdur: Chapter

Dyddiad cau: 23/10/2025


  • Contract: Tymor penodol o dair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad (yn amodol ar gyfnod prawf o dri mis)

  • Dyddiad cau: Iau 23 Hydref, 5pm

  • Cyfweliadau: Dydd Llun 17 Tachwedd

  • Cyflog: £27,248 (pro rata) - cyflog gwirioneddol £16,348.80

  • Oriau: 24 awr yr wythnos (TOIL). Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.

  • Lleoliad: Bydd yr ymgeisydd wedi’u lleoli yn y swyddfa yn Chapter, Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd pan fo’n bosib.


Diben y swydd


Bydd y Curadur Cynorthwyol (Celfyddydau Gweledol) yn gweithio gyda’r Uwch Guradur i wireddu rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch celfyddydau byw a gweledol yn ein canolfan, ynghyd â gwaith a gaiff ei gynhyrchu a’i gyflwyno mewn mannau eraill.


Bydd yn aelod allweddol o staff, yn cefnogi'r Uwch Guradur ym mhob agwedd ar ymchwil, paratoi, cyflwyno a chynhyrchu arddangosfeydd a'n rhaglen o sgyrsiau, digwyddiadau a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn.


Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r timau curadurol, ymgysylltu a marchnata i sicrhau bod y rhaglen celfyddydau gweledol wedi'i hymgorffori yn y rhaglen aml-gelfyddyd ehangach ac yn cael ei chyfleu'n gydlynol i gynulleidfaoedd.


Rydyn ni wrthi’n gweithio i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn ein sefydliad, ac yn annog yn gryf geisiadau gan bob ymgeisydd sy’n bodloni gofynion y disgrifiad swydd.


Sut i wneud cais:


Mae tair ffordd y gallwch wneud cais. E-bostiwch apply@chapter.org gydag un o’r dilynol:


  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau, y gellir ei lawrlwytho isod

  • Fideo o ddim mwy na 5 munud (rydyn ni’n awgrymu lanlwytho gyda WeTransfer)

  • Anfonwch ffeil sain o ddim mwy na 5 munud aton ni (rydyn ni’n awgrymu lanlwytho gyda WeTransfer)


Bydden ni hefyd yn gwerthfawrogi pe bai modd i chi lenwi Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal. Mae’r wybodaeth ar y ffurflen fonitro yn ddienw, ac yn cael ei chasglu gan staff sydd heb gysylltiad â’r broses recriwtio.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page