top of page

Effaith - Galwad Agored am Artistiaid Anabl: Arddangosfa Genedlaethol Celfyddydau Anabledd Cymru (2025-26)

  • cerys35
  • Jul 28
  • 3 min read

Updated: Oct 20

🕒 Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau am yr arddangosfa: 12pm, 22 Hydref 2025


Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn gwahodd ceisiadau gan artistiaid anabl, b/Byddar a niwrowahanol o bob cwr o Gymru ar gyfer ein harddangosfa deithiol genedlaethol sydd ar y gweill: Effaith


Bydd y prosiect uchelgeisiol hwn yn arddangos celf weledol bwerus ac arloesol gan artistiaid anabl mewn pum lleoliad celfyddydol blaenllaw ledled Cymru, rhwng mis Chwefror 2026 a mis Mawrth 2027.


Lawrlwythwch y ddogfen Hawdd ei Ddeall yma:


Yr Arddangosfa

Bydd Effaith yn archwilio themâu natur, tirwedd a chyfiawnder hinsawdd o safbwynt anabledd. Mae'r arddangosfa'n cynnig cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru gael gweld safbwyntiau pobl anabl ar un o faterion mwyaf brys ein hoes.


Rydym yn chwilio am waith ar unrhyw ffurf ar gelfyddyd weledol, gan gynnwys (ond nid y rhain yn unig):

paentiad, lluniad, cerflun, delwedd symudol, ffotograffiaeth, cyfryngau cymysg, sain, digidol a gosodwaith.


Lleoliadau’r Arddangosfa Deithiol

Bydd yr arddangosfa'n teithio i’r lleoliadau canlynol:

● Galeri, Caernarfon

● Tŷ Pawb, Wrecsam

● g39, Caerdydd

● Glan yr Afon, Casnewydd

● Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Cynhelir gweithdai cyhoeddus o dan arweiniad yr artistiaid sy’n arddangos ym mhob lleoliad hefyd


Pwy all ymgeisio

Rydym yn croesawu ceisiadau gan:

● Artistiaid anabl, b/Byddar a/neu niwrowahanol yng Nghymru

● Artistiaid anabl, b/Byddar a/neu niwrowahanol o fannau eraill yn y DU sydd â chysylltiad cryf â Chymru

● Artistiaid unigol, cyfunol neu grwpiau cydweithredol


Rydym yn annog ceisiadau'n arbennig gan y rheini sy'n wynebu nifer o rwystrau rhag cymryd rhan, gan gynnwys artistiaid o gymunedau sy'n cael eu diffinio ar sail hil, artistiaid LHDTCRhA+, a'r rheini sydd â haenau o hunaniaeth sy’n plethu drwy’i gilydd.


Rhaid i chi fod yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru i wneud cais.

Mae aelodaeth yn rhad ac am ddim i bob person sy’n ystyried ei hun yn anabl, yn f/Fyddar neu’n niwrowahanol yng Nghymru.

Ymunwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru yma →  Aelodaeth| Celfyddydau Anabledd Cymru

Am beth rydym yn chwilio

Mae gennym ddiddordeb yn y canlynol:

● Gwaith sy'n barod i’w arddangos (wedi'i fframio neu ei fformatio i'w arddangos yn gyhoeddus)

● Gwaith sy'n ymateb i thema Effaith - natur neu anabledd a chyfiawnder hinsawdd

● Gwaith y gellir ei gludo a'i arddangos yn ddiogel ar draws nifer o leoliadau

Cymorth i Artistiaid a Ddewisir

Bydd y canlynol yn berthnasol i'r artistiaid a ddewisir ar gyfer yr arddangosfa:

● Mentora a chefnogaeth guradurol

● Telir costau cludo a gosod yn llawn

● Cymorth mynediad (rhowch amlinelliad o'ch gofynion yn eich cais)

● Cyhoeddusrwydd, dogfennu a hyrwyddo eich gwaith

Sut i gyflwyno

Cyflwynwch eich cais drwy https://dacymru.fillout.com/2025exhibition erbyn 12 hanner dydd ar 22 Hydref 2025.


Rydym yn derbyn ceisiadau ysgrifenedig, sain neu fideo.


Dylai eich cais gynnwys:

● Datganiad byr am yr artist (dim mwy na 200 gair)

● Hyd at 3 delwedd neu ffeil cyfryngau o'r gwaith yr hoffech ei arddangos

● Dogfen gofynion mynediad neu amlinelliad byr o unrhyw ofynion mynediad

● Eich manylion cyswllt ac unrhyw ddolenni perthnasol (gwefan, cyfryngau cymdeithasol)


Os oes angen i chi wneud cais mewn ffordd arall, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at post@disabilityarts.cymru


Panel Dethol

Bydd y gwaith celf yn cael ei ddewis gan:

● Dr Kate Brehme, curadur celfyddydau anabledd rhyngwladol (Berlinklusion)

● Bethany Handley, awdur ac ymgyrchydd dros gyfiawnder hinsawdd anabledd

● Arty Jen-Jo, artist a chyn enillydd Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru

Amserlen

● Dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno cais: 22 Hydref 2025

● Rhoi gwybod i'r artistiaid: Tachwedd 2025

● Lansio’r arddangosfa: Chwefror 2026

● Cau’r arddangosfa: Mawrth 2027

Comisiynau

Bydd dau ddarn o waith ychwanegol a gomisiynwyd - gyda chefnogaeth Amgueddfa Cymru a Chorsydd Caron, Môn - hefyd yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa.


I wneud cais am y cyfleoedd hyn, tarwch olwg ar yr hysbysebion isod:


Gallwch wneud cais am bob cyfle.


Diolch o galon i Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru a Chorsydd Calon Môn.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page