Cheryl Beer: CRESENDO HINSAWDD – Y Tu Ôl i'r Llenni
- cerys35
- Sep 30
- 1 min read
Mae Aelod DAC Cheryl Beer wedi ysgrifennu blog am ei Chomisiwn gyda Cultura Inglesa, Brazil & Unlimited sy'n lansio yn eu gŵyl ym Mrasil, yn ystod mis Hydref.
CRESENDO HINSAWDD – Y Tu Ôl i'r Llenni
"Mae'n ganol Awst. Rwy'n gweithio ar Gomisiwn newydd ar gyfer yr Ŵyl Cultura Inglesa ym Mrasil, mewn partneriaeth ag Unlimited. Bydd y gwaith yn cael ei sgrinio ar ffurf micro digidol ym mis Hydref fel rhan o arddangosfa ar y thema Cyfrifoldeb Amgylcheddol. Ar y dudalen hon, byddaf yn rhannu'r ystyriaethau a'r manylion sy’n sail i’r darn.
Dechreuodd y stori i minnau wrth grwydro’r lonydd o gwmpas bwthyn yng Ngorllewin Cymru, lle rwy'n aros gyda ffrindiau. Des ar draws coeden oedd wedi cwympo yn un o’r stormydd yn gynharach eleni, yn benodol Storm Éowyn. Roedd yn olygfa mor arswydus fel na allwn stopio meddwl am y goeden a theimlais fod rhaid i mi fynd yn ôl ati, i eistedd yn dawel gyda hi, i'w chalonogi, ac i ddysgu. Roedd natur eisoes wedi dechrau adennill y sgerbwd – gyda glaswellt, bysedd y cŵn ac amrywiaeth o flodau gwyllt. Roedd y dail yn wyrdd o hyd, a'r mwsogl yn ffynnu. Nid oedd y dadwreiddio trychinebus hwn wedi atal y goeden rhag bod yn fod byw."
Darllenwch y blog cyfan ar wefan Cheryl: https://www.cherylbeer.com/climate-crescendo.html
Mwy am waith Cheryl: https://www.cherylbeer.com/



