CHINCHILLA: Mae sengl nesaf Rightkeysonly allan ar ddydd Gwener!
- cerys35
- Jul 24
- 1 min read
Rhybudd cynnwys: Cam-drin domestig
Mae sengl nesaf aelod DAC Rightkeysonly, CHINCHILLA, allan nawr!
Mae Chinchilla yn archwiliad byw o gam-drin domestig.
Gan gymryd ysbrydoliaeth gan Sofia Isella, mae Keys yn cyfuno alawon piano sy'n gwrthdaro â geiriau graffig a lleisiau oeraidd i'n llusgo'n ddwfn i foliau ofn ac entrapiad.
Gwrandewch yma:
Er mwyn cefnogi eraill sydd wedi profi cam-drin domestig, mae Keys hefyd wedi cytuno i gwblhau 200 o push ups (ag un llaw) bob dydd ym mis Gorffennaf i godi arian ar gyfer Cardiff Women's Aid.
Meddai Keys" “Dwi ddim hyd yn oed yn gwybod os alla i wneud 200 o push ups, ond roedd yna hefyd amser nad oeddwn i'n gwybod a allwn i ddianc o sefyllfa beryglus iawn.
Rydw i'n gwneud hyn er mwyn i eraill deimlo'n gryf ynddyn nhw eu hunain hefyd.”
Rhoddwch yma: https://www.justgiving.com/page/rightkeysonly?utm_medium=FR&utm_source=CL&utm_campaign=015