Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru
Ydych chi'n artist sy'n hunan-anabod yn anabl neu fyddar yng Nghymru? Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn comisiynu wyth artist i greu gwaith, mewn unrhyw ffurf celf, sy'n rhannu eu profiad byw trwy greadigrwydd.
Sut brofiad yw bod chi’ch hun? Beth yw eich profiad byw? Pa safbwyntiau unigryw sydd gennych chi fel person anabl? Rydym am i chi ddangos i ni trwy gynhyrchu celf ragorol, mewn unrhyw ffurf celf.
Byddwn ni'n dewis wyth artist i dderbyn £1250 yr un i helpu i ddod â'r syniadau hyn yn fyw.
Sut i ymgeisio:
Mae rhaid i chi fod yn aelod DAC. Os nad ydych yn aelod, ymunwch yma: https://dacymru.fillout.com/membership. Mae aelodaeth am ddim i bawb sy'n hunan-adnabod yn anabl neu'n fyddar yn ôl y model cymdeithasol o anabledd.
Cyflwynwch eich cais erbyn dydd Mercher 16 Rhagfyr. Cyflwynwch hyd at 500 o eiriau neu hyd at 5 munud o recordiad fideo neu sain. Mae rhaid cynnwys:
Gwybodaeth amdanoch chi'ch hun
Gwybodaeth am eich ymarfer celfyddydol
Pa waith rydych chi'n bwriadu ei gynhyrchu a sut bydd y gwaith yn adlewyrchu eich profiad fel person anabl neu fyddar.
Gall cyflwyniadau fod mewn Iaith Arwyddion Prydain.
Rhaid cytuno y gall DAC rannu eich gwaith. Bydd DAC yn rhannu’r gwaith rydych yn ei gynhyrchu ar-lein ac mewn print am hyd at pum mlynedd o’r dyddiad a derbynnir.
Sut y bydd ceisiadau'n cael eu beirniadu:
Potensial creadigol y syniad.
Potensial y syniad o amlygu profiad byw.
Potensial y cyfle i ddatblygu gyrfa’r artist.
Bydd o leiaf dau gomisiwn yn iaith Gymraeg, cwblhewch y ffurflen yma yn Gymraeg os hoffwch eich cais cael ei ystyried am un o’r comisiynau iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn croesawu'n enwedig ceisiadau sy'n archwilio hil neu natur o safbwynt anabledd.
Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â post@dacymru.com neu 07726 112784
Telerau ac amodau:
Bydd y ffi yn cael ei ddosbarthu mewn dau daliad, bydd y taliad olaf yn cael ei wneud ar ôl derbyn y gwaith.
Mae'r ffioedd yn cynnwys costau mynediad, deunyddiau a chostau cynhyrchu.
Bydd yr artistiaid yn cael eu dewis gan banel annibynnol. Ni fydd unrhyw aelod o dîm DAC yn cymryd rhan yn y dethol.
Bydd angen i bob artist llwyddiannus roi esboniad byr o'u gwaith a'i ystyr cyn derbyn y taliad olaf. Gellir gwneud hyn fel fideo, hyd at rhwng 300-500 gair o destun neu ffeil sain. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi gan DAC ynghyd â'r gwaith am hyd at pum mlynedd.
Rhaid cytuno y gall DAC rannu eich gwaith ar-lein ac mewn print.
Rydym yn deall bod gwrthodiad yn anhygoel o anodd, yn enwedig yng nghyd-destun rhannu profiad byw. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu adborth ac yn annog pob ymgeisydd aflwyddiannus i wneud cais eto am gomisiynau yn y dyfodol.
Defnydd deallusrwydd artiffisial (AI): Mae technoleg deallusrwydd artiffisial yn cynnwys offer sy’n gallu helpu gyda hygyrchedd ac mi fydd rhaid i artistiaid datgan defnydd unrhyw ddeallusrwydd artiffisial yn ei chais. Er hyn, rydym hefyd yn credu ei bod yn angenrheidiol bod ein comisiynau yn awdurdodi artistiaid i fynegi ei chreadigrwydd unigol, ei llais, a’i phrofiad byw. Rydym yn adnabod gwahaniaeth pwysig rhwng y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial er budd mynediad a’i defnydd i eneradu gwaith creadigol. Ni fyddwn felly yn ystyried ceisiadau sy’n cynnig defnyddio AI i greu ei gwaith.
Ffurflen cais: https://dacymru.fillout.com/commissions26



