Sbotolau Artist: Cheryl Beer

Pan gwrddais â'r teulu Derw hynafol am y tro cyntaf ar y bryn yng Nghoed y Foel, bron iawn i mi benglinio o’u blaen fel arwydd o barch. Wedi fy syfrdanu, dechreuais ar brosiect blwyddyn yn ymchwilio i'w hanes 400 mlynedd. Sylweddolais eu bod yng ngofal Coed Cadw, a dysgais pa mor bwysig yw hen goed hynafol i gymaint o ecosystemau cymhleth.

Dechreuais gydweithio'n naturiol gyda'r coed: heb unrhyw ragdybiaethau, gan adael iddynt lywio fy ymarfer creadigol. Arweiniodd hyn i gyfansoddi cymalau cerddorol byr tebyg i fantra o'r marciau ar eu hesgyrn pydredig. Recordiais y mantra yn fy stiwdio ar recorder tenor, ac yn weledol, creais set o fandalas cylchoedd coed o'r gerddoriaeth wedi'i nodiannu, a'u fframio ar gyfer yr arddangosfa. Yna saernïais leiniau o gorun derwen a ddifrodwyd gan stormydd. Teimlais fod pob glain yn hiraethu, ac felly fe'u cludais adref i Goed y Foel, a'u ffilmio fel gosodiad crog.

Ar ôl gorffen y prosiect a threulio blwyddyn gyda marciau a chreithiau hanesyddol coed, gofynnais tybed a ddylen i drin fy nghorff innau gyda'r cyfryw barch. Dyma yw’r syniad a fydd yn llywio fy ymarfer o hyn ymlaen. Fy ngobaith yw y bydd pawb sy’n ymgysylltu ag Esgyrn Derw: Celfyddyd Gysegredig Coed yn teimlo cysylltiad agosach â'r tir ac â nhw eu hunain, fel y gwnaf innau.

Dolennau i waith:
Gwefan: www.cherylbeer.com/oak-bones
Facebook: www.facebook.com/cherylbeertoday
Mae Cheryl Beer yn ymddiddori mewn archwilio sain weledol er mwyn creu celf aml-genre mewn cydweithrediad â natur. Yn sgil ei hymchwil gyda Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol, mae ei hymarfer creadigol wedi'i wreiddio'n ddwfn mewn cyfiawnder hinsawdd a llesiant emosiynol.

Bu gwaith Cheryl, Symffoni'r Coedwigoedd Glaw, Cân y Coed, a gyfansoddwyd gyda biorhythmau o dan y rhisgl, yn teithio'n rhyngwladol am 18 mis. Cheryl oedd yr artist Cymreig cyntaf i arddangos yn Senedd y DU ac ymddangosodd hefyd yn y Festival of Silence agoriadol ym Mharc Hyde.

Dewiswyd Cheryl i gynrychioli Prydain Fawr yn y Garden of GREAT yn Qatar yn ystod Cwpan y Byd a bu'n rhan o garfan ddiwylliannol Celfyddydau Rhyngwladol Cymru. Cafodd ei henwebu am Wobr Dewi Sant yn 2024 am ei chyfraniad cenedlaethol a rhyngwladol i’r celfyddydau. Yn ogystal, mae Cheryl wedi ei hanrhydeddu fel un o'r 100 o Fenywod Ysbrydoledig Cymreig gan Rwydwaith Menywod Cymru a Llywodraeth Cymru am ei chyfraniad i’r Celfyddydau ac Iechyd.




