Crafu: Comisiynau Perfformiad Celfyddydau Anabledd Cymru
- Mar 4
- 1 min read
Updated: 2 days ago
Ymunwch â Chelfyddydau Anabledd Cymru am brynhawn o berfformiadau gwaith-ar-y-gweill gan ddawnswyr, cerddorion, artistiaid perfformio a gwneuthurwyr theatr anabl!
Ar ôl pedwar diwrnod o ddyfeisio, bydd wyth artist a ddewiswyd am gomisiwn yn perfformio yn Stiwdio Seligman Canolfan Gelfyddydau Chapter ar ddydd Gwener 20 Mawrth rhwng 4-6:30pm.
O bypedau planhigion sy'n siarad i bersonâu drag, dawns wreiddiol i guriadau cyfoes, mae pob sioe 10 munud yn archwilio agwedd ar Anabledd o brofiadau bywyd yr artistiaid. Bydd rhai sioeau'n cael eu cyflwyno yn y Gymraeg, eraill yn Saesneg.
Darperir dehongliad Iaith Arwyddion Prydain gan Cathryn McShane a Stephen Brattan-Wilson.
Mae mynediad-gwastatir i'r gofod perfformio.
Mynediad am ddim i aelodau DAC! Fel arall, £5 y pen.
Mewn partneriaeth ag Adferiad, Humans Move, Tŷ Cerdd, Justin Teddy Cliffe, a Chanolfan Gelfyddydau Chapter.
Artistiaid:
Theatr:
Anna Sherratt
Nia Tilley
Dawns:
Victoria
Joe Powell-Maine
Celfyddyd Perfformiad:
Iza Jem
Ffion Campbell-Davies
Cerddoriaeth:
May Swoon
Gareth Churchill



