Awdur: Sgil Cymru
Mae ein Prentisiaeth Ffilm a Theledu ‘CRIW’ 2025/26 AR AGOR ar gyfer ceisiadau!
Rhaglen Brentisiaeth unigryw yw CRIW, sy’n agored i’r rhai sy’n awyddus i weithio y tu ôl i’r llenni ar gynyrchiadau ffilm a theledu sylweddol yn Ne Cymru. Mae rhaglen CRIW yn gyfle euraidd i ddechrau yn y diwydiant ac yn caniatáu i brentisiaid symud o gynyrchiad i gynhyrchiad, yn ennill profiad ymarferol o weithio ar set gan ddarparu mewnwelediad go iawn i sut mae’r sector yn gweithredu.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 26 Mawrth 2025 am hanner dydd
Gweithdai: wythnos yn dechrau 07 Ebrill 2025
Prentisiaeth yn dechrau: 27 Mai 2025