Cult Cymru: Mentora i Bobl Greadigol – Ceisiadau nawr ar agor
- Jun 23
- 1 min read
Awdur: Cult Cymru
Mae Bectu/CULT Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ceisiadau ar agor ar gyfer ein rhaglen fentora hynod lwyddiannus: Mentoring 4 Creatives.
Roedd rhaglenni blaenorol yn canolbwyntio ar aelodau sy’n gweithio yn y diwydiant sgrin ond mae M4C yn agored i’r rhai sy’n gweithio ar draws theatr, adloniant byw a cherddoriaeth yn ogystal â sgrin. Yr undebau perthnasol yw Bectu Cymru, Equity and Musicians’ Union. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’r undebau hyn er mwyn bod yn gymwys, cysylltwch â: siwan@bectu.org.uk
Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, mae’r rhaglen yn agored i aelodau sy’n byw a/neu’n gweithio yng Nghymru.
Rydym yn cynnal sesiynau holi ac ateb i rhoi cyfle i bobl glywed mwy am y cynllun ac i ofyn cwestiynnau. Cliciwch ar y dolennau perthnasol i archebu eich lle.
Nid oes rhaid mynychu sesiynau holi ac ateb i ymgeisio, gallwch ddarllen y wybodaeth a gwenud cais yma.



