top of page

Preswyliad i Artistiaid: Penuel Lane Studios

  • Jun 9
  • 1 min read

Awdur: Penuel Lane Studios

Dyddiad cau: 19/06/2026


July – December 2026


Gorffennaf – Rhagfyr 2026


Mae Preswyliad i Artistiaid Studios Lôn Penuel yn agored i artistiaid sydd â diddordeb mewn ymwneud â’r gymuned a chyd-greu.


“Beth allai’r lle hwn fod?”


Bydd artistiaid preswyl yn archwilio y cwestiwn hwn, gan fanteisio ar ofod stiwdio a chefnogaeth gan Gynhyrchydd Creadigol ac Ymgynghorydd Mynediad i greu gwaith newydd, a rennir ar ddiwedd y preswyliad.


Sut i ymgeisio?


Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i'n ffurflen gais ar-lein:


Er mwyn cael y cwestiynau ar ffurf ffeil sain, anfonwch e-bost aton ni.


Ffioedd a chymorth mynediad


Ffi i’r artist – £2,500


Deunyddiau – £1,000


Costau arddangosfa – £150


Costau mynediad sydd ar gael – £100


Gwybodaeth am y lleoliad


Stiwdios newydd dan arweiniad artistiaid yng nghanol tref Pontypridd yw Stiwdios Lôn Penuel. Mae gan artist / cydweithfeydd preswyl fynediad 24/7 i stiwdio, gofod gweithdy, cegin, a chwrt awyr agored yn ystod y preswyliad.


Eisiau gwybod rhagor?


Mae croeso i chi ymweld â'r lle a siarad â Chyfarwyddwr y Stiwdios a’r Cynhyrchydd Creadigol, Emily Bull, am y preswyliad a'r gofod sydd ar gael.


Defnyddiwch y manylion isod i gysylltu.


Cysylltwch â ni



Gwefan



Dyddiad cau ymgeisio: 19 Mehefin

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page