top of page

Curaduron Cynorthwyol - Artes Mundi

  • cerys35
  • 2 days ago
  • 2 min read

Awdur: Artes Mundi

Dyddiad cau: 16/05/25


Rydyn ni am benodi dau Guradur Cynorthwyol.


Bydd y Curaduron Cynorthwyol yn gweithio gyda thîm Artes Mundi i gynllunio a chyflwyno arddangosfa AM11, sydd ar y gweill ac sy’n cael ei chynnal bob dwy flynedd. Yn benodol, byddant yn cynorthwyo’r Cyfarwyddwr ym mhob agwedd ar gyflwyno’r rhaglen, yn arbennig cydlynu a pharatoi arddangosfeydd, cynllunio gosodiadau, monitro cyllidebau a chyfrannu at ddigwyddiadau a mentrau rhaglennu cyhoeddus.


Bydd gan un swydd gyfrifoldeb penodol am artistiaid sy’n arddangos ym Mostyn, Llandudno a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth; yr ail ar gyfer artistiaid sy’n arddangos yn Chapter, Caerdydd ac Oriel Gelf Glynn Vivian, Abertawe, a bydd y ddau yn cydlynu â thimau cyfredol o fewn y sefydliadau partner hyn.


Mae hwn yn gyfle cyffrous i groesawu talent newydd i’n tîm curadurol ymroddedig ac i gefnogi artistiaid, curaduron, awduron, ac eraill sy’n gweithio ym maes y celfyddydau gweledol yng Nghymru.


Yn adrodd i’r Cyfarwyddwr, Nigel Prince, bydd y Curaduron Cynorthwyol yn chwarae rôl allweddol wrth gyflwyno AM11 yn llwyddiannus, ar draws Cymru, a’r Gwobrau cysylltiedig.


Manylion am y rôl


Cynigir y swyddi hyn fel rhai Talu wrth Ennill (PAYE).


Cynigir y swyddi hyn fel rhai rhan-amser: sef 2.5 diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd/18.75 awr yr wythnos (0.5 FTE o 37.5 awr safonol) ond gyda dealltwriaeth y bydd angen hyblygrwydd sy’n berthnasol i’r llwyth gwaith a’r cam cyflawni o fewn yr amserlen gyffredinol ar gyfer cyflawni’r gwaith. Gofynnir i ddeiliaid y swydd gyflawni a gwneud gwaith ar rai nosweithiau a phenwythnosau. Rhoddir rhybudd priodol.


Ar gyfer pob swydd:


  • Cytundeb cyfnod penodol o flwyddyn

  • Y cyflog yw £15,000 ynghyd â chostau teithio

  • Oriau gwaith arferol yw 9.30am – 5.00pm

  • Mae’r swyddi wedi’u lleoli yng nghanolbarth i ogledd Cymru a de Cymru yn y drefn honno, gyda pheth amser yn ein swyddfeydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

  • Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: 16 Mai 2025, 12pm

  • Cynhelir y cyfweliadau (i’w gadarnhau): 26 Mai 2025 amseroedd i’w cadanhau

  • Y dyddiad dechrau delfrydol: Cyn gynted â phosib ar ôl y cyfweliad (gellir trafod hyn yn y cyfweliad)


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page