top of page

Cwmni Pendraw: DNA - Darganfod cyfrinach bywyd

  • May 18
  • 1 min read

Awdur: Pontio, Bangor


Llundain yn ystod y 50au, mae Rosalind Franklin yn cyrraedd ‘coridorau cysegredig’ prifysgol. Yn ddawnus ac yn angerddol dros wyddoniaeth; dyma ferch gref mewn parth gwrywaidd. Mae hi’n ymuno â’r ras i ddatgelu strwythur DNA, un o bosau pwysicaf y ganrif. Mae cenfigen academaidd ar waith yma ac, efallai, Gwobr Nobel yn y fantol.


Dyma stori dditectif wedi’i gosod yng nghanol hiliaeth a rhywiaeth y cyfnod. Clywch am gyfraniad Rosalind i un o ganfyddiadau gwyddonol pwysicaf ein hoes, rôl na dderbyniodd cydnabyddiaeth lawn amdano.


Gallwch ddisgwyl drama, gwrthdaro, cariad a cherddoriaeth fyw yn nwylo Cwmni Pendraw.


Stiwdio Pontio

Cynnwys BSL: Nos Wener 29 Mai, 7.30pm

Nos Sadwrn 30 Mai, 7.30pm


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page