top of page

Cwrdd Chwefror: Natur Sonig gyda Cheryl Beer

  • cerys35
  • Jan 14
  • 1 min read

Updated: Jan 23

04/02/25

5 - 6 yh ar Zoom

IAP: Cathryn McShane


Pan ddeffrodd Cheryl Beer, Eco-Gerddolegydd a Gwneuthurwr Ffilmiau Cadwraeth, gyda cholled clyw, tinitws a hyperacusis 7 mlynedd yn ôl, ni fyddai erioed wedi dychmygu ei bod yn ddechrau arfer creadigol newydd a fyddai’n ei chysylltu hi, a chynulleidfaoedd ledled y byd, yn ddyfnach â'r byd natur. Wrth ymuno â ni fel siaradwr gwadd am ddigwyddiad Cwrdd Chwefror, bydd Cheryl yn sôn am ei hymchwil diweddaraf fel Cymrawd Cymru’r Dyfodol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, o’r enw ‘Natur Sonig: Synhwyro Gardd Cymru’, sydd wedi’i lleoli yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, lle mae hi wedi creu Llwybr Ymchwil Artistiaid hybrid sydd wedi denu mwy na 3000 o ymwelwyr.


Meddai Cheryl,

'I ddechrau, gyda fy anghenion mynediad, roeddwn i'n cwestiynu sut y byddai'n bosib i fi gallu ymgysylltu ag ymwelwyr yr Ardd a’r gymuned leol, ond wrth anrhydeddu fy anghenion fy hun, creuais i fodel o weithio yn amryfus a oedd yn galluogi ymgysylltiad ehangach. Rydw i wir yn edrych ymlaen at rannu fy mewnwelediadau personol am Natur Sonig gydag aelodau Celfyddydau Anabledd Cymru, gan fy mod yn teimlo y bydd yr ystyriaethau rwyf wedi’u gwneud o fewn y gwaith yn atseinio gyda’u harferion creadigol nhw'

Os hoffech chi ymweld â Natur Sonig cyn ymddangosiad Cwrdd Cheryl, dyma ddolen: https://www.cherylbeer.com/fwf-cymraeg.html


--


Rydym yn defnyddio’r enw 'Cwrdd' oherwydd dyna yn union beth yw’r digwyddiad: cyfle i gwrdd lan ar gyfer bob aelod DAC! Dysgwch mwy am ein ddigwyddiadau Cwrdd yma: https://www.disabilityarts.cymru/cy/post/beth-yw-ein-digwyddiadau-cwrdd-misol


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page