top of page

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol DAC 2025

  • cerys35
  • Sep 17
  • 1 min read

Dydd Mercher 01af o Hydref, 04:00yh tan 05:00yh


Cynhelir y seithfed Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Celfyddydau Anabledd Cymru, Rhif Elusen Gofrestredig 1175678, yn cael ei gynnal ddydd Mercher 01af o Hydref 2025 04:00yh tan 05:00yh. Er mwyn cael cymaint o aelodau â phosibl i gymryd rhan, byddwn yn cynnal y cyfarfod hwn dros ‘Zoom’. Bydd capsiynau a BSLI ar gael. Bydd hefyd perfformiadau gan Aelodau DAC yn ystod y digwyddiad.


I gofrestru i fynychu'r cyfarfod cliciwch yma cyn 26 o Fedi 2025


Oherwydd y swm mawr o wybodaeth y mae angen ei hanfon atoch mewn cysylltiad â'r cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, y ffordd hawsaf o gyrchu hyn yw trwy glicio ar y ddolen ganlynol:

 


Trwy y ddolen yma cewch gweld y llythyr gwahoddiad, agenda, Cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol blaenorol, a manylion yr aelodau sy'n cael eu henwebu i gael eu penodi'n Ymddiriedolwyr.


Os na allwch gyrchu'r ffolderau, cysylltwch â post@dacymru.com a byddaf yn trefnu i'r wybodaeth gael ei hanfon trwy e-bost.


Mae aelodau’n gymwys i bleidleisio i benodi Ymddiriedolwyr. Gan y bydd pleidlais i benodi Ymddiriedolwyr yn y cyfarfod mae'n hanfodol bod cworwm i’r cyfarfod neu ein bod wedi derbyn digon o bleidleisiau dirprwyol felly rydym yn gobeithio y byddwch chi'n gallu cefnogi'r CCB eleni naill ai trwy ymuno â'r digwyddiad Zoom neu trwy lenwi a dychwelyd eich pleidlais drwy ddirprwy.


Diolch am eich cefnogaeth barhaus o DAC.



Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page