Cyfle: Gweinyddwr Llawrydd, Visual Arts Group Wales
- cerys35
- Jun 24
- 1 min read
Awdur: Visual Arts Group Wales
Mae Visual Arts Group Wales (VAGW) yn chwilio am Weinyddwr llawrydd i gefnogi pob maes o’n gweithrediadau a’n polisïau.
Mae’r swydd hon yn golygu 100 diwrnod o waith am £250 y diwrnod, i’w chwblhau rhwng Gorffennaf 2025 – 30 Mehefin 2026.
Bydd y rôl yn darparu cymorth gweinyddol ar draws holl feysydd VAGW, yn cynnwys:
helpu i adolygu a gweithredu polisïau Adnoddau Dynol
amserlennu cyfarfodydd a chymryd cofnodion
creu deunydd marchnata
rheoli’r cyfryngau cymdeithasol
cysylltu ag aelodau VAGW
helpu’r trysorydd gydag adrodd, drafftio cyllidebau, a thasgau gweinyddol ariannol eraill
Mae’r swydd hon yn rhan o gyflawni ‘Datblygiad Strategol VAGW’ a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a bydd yn helpu gyda’r ymchwil a’r gweithredu.
Dyddiad cau: 9am Dydd Llun 14 Gorffennaf
Dyddiad y Cyfweliadau: yr wythnos yn dechrau 28 Gorffennaf 2025
Mwy o wybodaeth ac ymgeisio: http://www.vagroupwales.org/cy/2025/06/23/cyfle-gweinyddwr-llawrydd/