top of page

Llythyr Agored: Pryderon Brys Ynglŷn â Phapur Gwyrdd “Pathways to Work” Llywodraeth y DU a'i Effaith ar Artistiaid Anabl yng Nghymru

  • cerys35
  • 18 hours ago
  • 2 min read

17eg Mehefin 2025


Llythyr Agored o Creu Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru.


I:

Jack Sargeant AS, Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol


Pryderon Brys Ynglŷn â Phapur Gwyrdd “Pathways to Work” Llywodraeth y DU a'i Effaith ar Artistiaid Anabl yng Nghymru.


Annwyl Gweinidogion,


Rydym yn ysgrifennu ar ran Creu Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru ac rydym am fynegi ein pryder dwys ynglŷn â Phapur Gwyrdd diweddar Lywodraeth y DU, “Pathways to Work: Reforming Benefits and Support to Get Britain Working.”


Er ein bod yn cydnabod y pwysigrwydd o gefnogi pobl i gael cyflogaeth ystyrlon, rydym yn credu bod perygl bydd y cynigion a amlinellir yn y papur hwn yn tanseilio’r cynnydd sydd wedi'i gwneud mewn cyflogaeth i bobl anabl yn sylweddol — yn enwedig o fewn y sector celfyddydau a diwylliannol yng Nghymru. Gall y newidiadau effeithio'n anghymesur ar artistiaid a gweithwyr diwylliannol anabl, gyda nifer fawr ohonynt eisoes wedi wynebu rhwystrau systemig i gyfranogaeth a chyflogaeth.


Mae Cymru yn gartref i gymuned gelfyddydol dan arweiniad anabledd sy'n fyrlymus ac wedi ennill parch byd-eang. Mae'r diwygiadau arfaethedig yn bygwth ansefydlogi'r ecosystem hon drwy gyflwyno mesurau cosbol a allai orfodi unigolion anabl i gael cyflogaeth anaddas neu fod mewn perygl o golli cefnogaeth hanfodol. Mae hyn nid yn unig yn anghyfiawn ond hefyd yn wrthgynhyrchiol i'r egwyddorion cynhwysol yr ydym yn ymdrechu i'w cynnal ym mywyd cyhoeddus Cymru.


Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i:

1. Gwrthwynebu’n gyhoeddus agweddau mwyaf niweidiol y Papur Gwyrdd ac eiriol am ddynesiad mwy cynhwysol a chefnogol i gyflogaeth pobl anabl.

2. Ymgysylltu’n uniongyrchol ag artistiaid a sefydliadau anabl yng Nghymru i ddeall effaith byd go iawn y cynigion hyn.

3. Pleidio dros egwyddorion y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sicrhau nad yw penderfyniadau a wneir heddiw yn peryglu hawliau a chyfleoedd pobl anabl yfory.


Rydym yn credu gallai a dylai Cymru arwain y ffordd i greu sector diwylliannol tecach a mwy cynhwysol — un sy'n gwerthfawrogi cyfraniadau pobl anabl nid er gwaethaf eu hanabledd, ond oherwydd y safbwyntiau unigryw a'r creadigrwydd maen nhw'n eu cynnig.

Bydden ni'n croesawu’r cyfle i gyfarfod â chi i drafod y pryderon hyn ymhellach ac i archwilio sut y gallwn gydweithio i amddiffyn a hyrwyddo celfyddydau dan arweiniad anabledd yng Nghymru.


Yn gywir


Louise Miles-Payne

Cyfarwyddwr, Creu Cymru (ar ran y sector perfformio byw yng Nghymru) Director, Creu Cymru (on behalf of the live performance sector in Wales)


Ac


Owain Gwilym

Cyfarwyddwr Gweithredol; Celfyddydau Anabledd Cymru

Executive Director; Disability Arts Cymru

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page