Deiseb yn erbyn Toriadau i Fudd-daliadau Anabledd
- cerys35
- Jun 9
- 1 min read
Awdur: Anabledd Cymru
Mae deiseb wedi cael ei lansio gan yr MP Richard Burgon yn galw am dreth gyfoeth yn hytrach na thoriadau. Gellir llofnodi'r ddeiseb yma: https://www.change.org/p/tax-wealth-don-t-cut-disability-support
Mae'r ddeiseb wedi derbyn cefnogaeth gan dros 60,000 o bobl a bydd e'n cael ei gyflwyno yn y Senedd cyn unrhyw bleidleisiau ar y toriadau. Mae'r ddeiseb yn datgan:
“Gallai Treth Cyfoeth o 2% ar asedau dros £10 miliwn godi hyd at £24 biliwn y flwyddyn. Mae hynny'n llawer mwy na'r £5 biliwn y mae'r Llywodraeth yn ddweud gall cael ei "arbed" drwy dorri cymorth ariannol allweddol i bobl anabl.
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i roi'r gorau i'r toriadau creulon hyn ac, yn lle cosbi'r tlotaf, i weithredu treth Cyfoeth ar y mwyaf cyfoethog."
Mae Richard Burgon MP hefyd yn cynnal digwyddiad ar-lein am yr ymgyrch dros dreth gyfoeth am 6.30pm ddydd Llun yr 16eg o Fehefin. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yma.
Gallwch ffeindio mwy o Wybodaeth ac Adnoddau yma: https://www.disabilityarts.cymru/cy/post/gwybodaeth-ac-adnoddau-budd-daliadau-anabledd