Gwybodaeth ac Adnoddau: Budd-daliadau Anabledd
- cerys35
- Mar 19
- 2 min read
Rydym yn wynebu amser anodd gyda'r newyddion o doriadau arfaethedig i fudd-daliadau anabledd. Isod rydym wedi casglu newyddion ac adnoddau a hefyd dolennau i ddeisebau a llythyrau templed y gallwch eu hanfon at eich MP.
Mae Anabledd Cymru wedi creu llythyr templed y gallwch ei ddefnyddio i ysgrifennu i'ch MP - lawrlwythwch y templed yma. Gallwch hefyd ffeindio manylion cyswllt ar gyfer eich MP yma.
Mae Scope wedi ysgrifennu llythyr agored i'r Canghellor fel rhan o'i ymgyrch Cost of Cuts. Gallwch wahodd eich MP i Ddigwyddiad Seneddol Scope yma.
Mae Scope hefyd wedi creu deiseb sy'n agos at gyrraedd ei tharged. Ychwanegwch eich enw yma.
Mae Anabledd Cymru wedi creu rhestr yn Cyfeirio at Gymorth:
Advicelink Cymru: Cyngor ar hawliau lles, gwiriadau budd-daliadau, a chymorth eiriolaeth. Cliciwch ar y ddolen yma: Advicelink Cymru - Citizens Advice
Cyngor Lleol: Efallai bod gan eich awdurdod lleol Gynghorwyr Hawliau Lles a Thaliadau Dewisol. Mae llawer o awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector yn darparu cymorth gyda cheisiadau am fudd-daliadau ac apeliadau. Mae rhai cynghorau yn cynnig cymorth ariannol i bobl mewn argyfwng drwy daliadau Dewisol. Cliciwch ar y ddolen yma i ffeindio eich awdurdod lleol: Find your local authority | GOV.WALES
Disability Can Do: Yn darparu cymorth lles i bobl anabl yng Nghaerffili. Cliciwch ar y ddolen am fwy o wybodaeth DisabilityCanDo
The FDF: Elusen annibynnol, pan-anabledd wedi’i lleoli yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, Gogledd Cymru, sy’n cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth am ddim i bobl anabl a difreintiedig yng Ngogledd Cymru. Mwy o wybodaeth:https://www.thefdf.org.uk/
Dysgwch fwy am y toriadau arfaethedig yn yr erthygl yma gan Disability Rights UK.
Gallwch hefyd darllen Papur Gwyrdd Llywodraeth y DU yma.