Awdur: Papertrail / Llwybr Papur
Dyddiad cau: 16/12/2024
Hoffai Papertrail benodi Rheolwr Cyffredinol profiadol i weithio gyda’r Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig Bridget Keehan a Jonny Cotsen ar gynyrchiadau cyffrous sydd ar y gweill ar gyfer 2025.
Mae Papertrail wedi bod yn creu a llwyfannu straeon nas clywir gan leisiau sydd wedi eu tangynrychioli yng Nghymru a thu hwnt am 10 mlynedd. Diolch i gynllun Camau Creadigol CCC mae’r cwmni bellach yn camu i gyfnod cyffrous yn natblygiad y cwmni gyda Jonny Cotsen yn cyd-arwain y cwmni gyda’r Cyfarwyddwr Artistig, Bridget Keehan sylfaenydd y cwmni. Eu cyd-weledigaeth ydy dal ati i lwyfannu straeon nas clywir ac i ddatblygu estheteg hygyrchedd creadigol y gwaith a gynhyrchir. Amcan sylfaenol y cwmni ydy creu cyfleon newydd i unigolion sydd wedi wynebu rhwystrau ac sydd wedi eu tangynrychioli yn y celfyddydau. I wireddu hyn mae’r cwmni angen Rheolwr Cyffredinol i alluogi ein holl weithredoedd i redeg yn esmwyth.
Mwy am y swydd
Ar gyfer y swydd hon hoffai Papertrail glywed gan unigolion llawn cymhelliant a threfnus sydd yn angerddol am y celfyddydau a gallu’r celfyddydau i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Bydd y Rheolwr Cyffredinol yn atebol i’r Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig ac aelodau’r bwrdd yn ogystal a chydweithio gyda’r Cynhyrchydd Creadigol a’r Artistiaid Cysylltiol. Prif ddyletswyddau’r swydd ydy goruchwylio rheolaeth dyddiol y cwmni, ei pholisïau, cytundebau a’i chyllidebau. Byddwch hefyd angen cefnogi’r tîm gyda chodi arian a gweithgareddau marchnata.
Am bwy ydym yn chwilio?
Rwyt ti’n berson sydd yn ymroddedig i alluogi pawb i ymgysylltu gyda eu creadigrwydd ac yn credu ym mhŵer y celfyddydau i fod yn drawsnewidiol. Rwyt ti’n gydweithredwr arbennig ac yn gweld y darlun mawr yn ogystal a gweithio ar y manylion lleiaf. Rwyt ti’n berson hynod drefnus gyda’r gallu i weithredu systemau sydd yn galluogi’r cwmni a phrosiectau’r cwmni i redeg yn esmwyth.
Prif ddyletswyddau yn cynnwys:
• Negydu cytundebau a pharatoadau ar gyfer gweithwyr llawrydd, perfformwyr, rheolwyr llwyfan, tîm cynhyrchu a staff eraill
• Negydu lleoliadau a chytundebau cyd-gynhyrchu pan yn ofynnol. Goruchwylio gweithrediadau dyddiol gan gynnwys rheolaeth ariannol
• Goruchwylio gweithrediadau dyddiol gan gynnwys rheolaeth ariannol
• Cefnogi ymgyrchoedd marchnata a chodi arian
• Sicrhau cydymffurfiad gyda rheoliadau cyfreithiol a diogelwch a bod yn wybodus am ddatblygiadau undebau
• Cefnogi unrhyw ofynion mynediad a sicrhau cyfathrebu da a arferion gwaith diogel
Manylion PersonHanfodol
• Lleiafswm o 3 mlynedd o brofiad mewn swydd debyg
• Hanes profedig o reolaeth ariannol, gan gynnwys cyllido, cynllunio ariannol, meddwl dadansoddol ac adrodd nôl
• Cynllunio ariannol a cyllido gyda gwybodaeth ragorol o Microsoft Office gan gynnwys Excel, Outlook a Word.
• Profiad o weinyddu Bwrdd o Gyfarwyddwyr
• Gwybodaeth o brosesau cynhyrchu theatr
• Gwybodaeth o gytundebu a pholisïau, yn enwedig deddf cyflogaeth a EDI
• Sgiliau rhyngbersonol arbennig gyda’r gallu i ymgysylltu ac adeiladu perthynas gyda rhanddeiliaid gan gynnwys artistiaid, noddwyr ac aelodau bwrdd
• Sgiliau trefnu cryf a’r gallu i flaenoriaethu tasgau
• Safonau moesegol a uniondeb cryf gyda ymrwymiad i feithrin diwylliant cynhwysol a pharchus
• Aelod brwdfrydig o dîm
• Parodrwydd i weithio oriau hyblyg
Dymunol
• Yn gyfarwydd gyda chodi arian, nawdd ac ysgrifennu grantiau o fewn y celfyddydau a’r sector elusennol
• Rhwydwaith gref a chysylltiadau gyda lleoliadau teithio bychan a chanolig eu maint rhanbarthol
• Hyderus yn ysgrifennu a siarad Cymraeg ac/neu ieithoedd eraill• Dealltwriaeth sylfaenol BSL, ymwybyddiaeth Byddar neu wedi gweithio gyda phobol Byddar neu unigolion Trwm eu Clyw
• Profiad yn gweithio i sefydliad celfyddydol bach
• Profiad yn defnyddio meddalwedd cyfrifeg
Manylion Swydd
Yn atebol: i’r Cyd-Gyfarwyddwyr Artistig.
Oriau: 2.5 diwrnod yr wythnos
Ffi: yn gyfatebol a 36k pro rata
Hyd prosiect: Cytundeb 10 mis yn gychwynnol. Yn ddelfrydol i ddechrau ym mis Ionawr/Chwefror 2025. Mae posibiliad o ymestyn y cytundeb yn ddibynnol ar dderbyn cyllid pellach.
Lleoliad gwaith: Hyblyg/gweithio o bell ond yn barod i gyfarfod yn gyson yng Nghaerdydd.
Proses Ymgeisio
Anfonwch eich CV a llythyr cais dim mwy na 2 ochr A4 yn nodi: Pam eich bod chi eisiau gweithio gyda Papertrail a’r profiad a’r nodweddion byddech yn ei gyfrannu i’r cwmni. Cyfeiriwch at y manylion person yn y llythyr neu’r CV.
Lawrlwythwch y ffurflen cyfle cyfartal (ar gael o’n gwefan – www.papertrail.org.uk ). Os yn cael trafferth i lawrlwytho’r ffurflen neu os oes ganddo chi gwestiynau pellach am y broses ymgeisio, ebostiwch: contact@papertrail.org.uk
Mae modd ymgeisio drwy fidio neu sain yn hytrach na anfon llythyr cais, i gyd-fynd gyda’ch copi o’ch CV. I wneud hyn gwnewch yn siŵr bod eich recordiad wedi ei arbed mewn fformat hygyrch a’i anfon drwy ddolen WeTransfer i: contact@papertrail.org.uk
Dylai fidios/sain ddim bod yn hirach na 5 munud o hyd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Llun Rhagfyr y 16ed am 12yh
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal Dydd Llun Ionawr y 6ed 2025
Hygyrchedd a Chynhwysiad
Rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o gymunedau sydd yn cael eu tangynrychioli yn y gweithle celfyddydol, yn enwedig wrth ystyried anabledd, dosbarth ac ethnigrwydd, a phobl sydd a phrofiad bywyd sydd yn adlewyrchu y cymunedau rydym yn gweithio â nhw. Rydym yn gwarantu cyfweld â unrhyw ymgeisydd anabl sydd yn cyrraedd meini prawf angenrheidiol y swydd. Os ydych yn teimlo fod hyn yn berthnasol i chi, nodwch hynny yn eich llythyr cais os gwelwch yn dda.
Os oes anghenion penodol neu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch yn ystod y broses recriwtio, gan gynnwys unrhyw beth sydd ei angen arnoch pe byddai chi’n cael eich galw am gyfweliad (e.e. cyfieithwyr, gwybodaeth mewn fformat wahanol ayyb.) neu os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r swydd yn gyfrinachol, yna cysylltwch â: bridget.keehan@papertrail.org.uk