Awdur: Cyngor Celfyddydau Cymru
Dyddiad cau: 06/12/2024
Gall pobl sy'n gwneud cais am ein cronfa Camau Creadigol weithio gyda Mentor i'w helpu gyda'u cais.
Manylion am fod yn Fentor Camau Creadigol
Byddwn wrth ein boddau yn eich gweld yn ymuno fel Mentor.
Bydd disgwyl i’r Mentoriaid:
cefnogi a helpu ymgeiswyr i lunio eu syniadau’n gynnig llawn
rhoi arweiniad, cefnogaeth a gwybodaeth i ymgeiswyr cyn ymgeisio i hwyluso eu syniadau datblygu
cysylltu ymgeiswyr ag unrhyw ymgynghorwyr a allai eu cefnogi ar eu taith
ymrwymo hyd at 6 awr o'u hamser i gefnogi pob ymgeisydd sydd ganddynt (gall yr amser gynyddu os oes angen ond ystyriwn bob achos yn unigol)
cadw cofnod cyfredol o bob cyfarfod â’r ymgeisydd gyda manylion am y drafodaeth a chynnydd y syniad
mynd i bob un o’n sesiynau sefydlu a hyfforddiant
cynnal perthynas agored a gonest â’n staff
rhoi inni unrhyw adborth am y broses, yn anffurfiol neu drwy asesiad ffurfiol
Hoffem eich cael yn Fentor os oes gennych brofiad mentora a gallwch:
cynorthwyo artistiaid a sefydliadau celfyddydol i gyrraedd y cam nesaf yn eu datblygiad proffesiynol a datblygiad eu sefydliad a’u busnes
gwrando, talu sylw a rhoi adborth adeiladol
ymrwymo i rannu eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch arbenigedd
gweithio gydag ystod eang o bobl sydd â gwahanol brofiad byw a gweithio
os oes gennych brofiad byw neu brofiad o weithio gyda phobl fyddar, anabl, niwroamrywiol neu sy'n amrywiol yn ethnig a diwylliannol
Sut byddwn yn eich cefnogi?
Byddwn yn:
rhoi cyflwyniad a hyfforddiant ichi am ein sefydliad a'n prosesau
eich cefnogi gydag unrhyw anawsterau drwy gydol y broses
eich talu am eich amser: £150 am hanner diwrnod a £300 am ddiwrnod llawn
Beth yw'r manteision o fod yn Fentor?
Byddwch yn:
chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi sector celfyddydol Cymru
ein cefnogi i fynd yn sefydliad mwy cyfartal, cynhwysol ac amrywiol
dysgu am sut rydym yn gweithio ac am ein prosesau
cryfhau eich sgiliau, eich arbenigedd a'ch gwybodaeth
ymgysylltu ag artistiaid a sefydliadau amrywiol, newydd
ehangu eich rhwydwaith
Ymgeisio
Cyflwynwch Fynegiant o Ddiddordeb (500 gair ar y mwyaf) sy’n nodi pam y byddwch yn Fentor gwych ar gyfer y gronfa. Anfonwch eich Mynegiant yn ddogfen Word, PDF neu fideo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: Sut i gyflwyno cais fideo/ sain
5pm ar 6 Rhagfyr 2024 yw’r dyddiad cau.
Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr erbyn 16 Rhagfyr 2024. Os nad ydych wedi clywed erbyn hynny, ni lwyddodd eich cais.
Anfonwch eich Mynegiant at:
Hygyrchedd:
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnig gwybodaeth mewn print bras, Braille, sain, Hawdd ei Darllen ac Arwyddeg. Byddwn hefyd yn ceisio darparu gwybodaeth mewn ieithoedd heblaw'r Gymraeg neu'r Saesneg ar gais.
Os oes gennych ofynion hygyrchedd, dyma ragor am beth y gallwn ei wneud a sut i'w drefnu: Cymorth hygyrchedd