top of page

Cyfleoedd Llawrydd at Theatr y Sherman: Prif Hwylusydd a Chydymaith Gweithdai

  • Apr 15
  • 2 min read

Awdur: Theatr y Sherman


PRIF HWYLUSYDD – RHAGLEN ALLGYMORTH YSGOLION BALLOON GIRL


  • Llawrydd

  • Cytundeb: Cyfnod Penodol - 22.5 diwrnod

  • Cyflog: £200 y dydd

  • Dyddiad cau: dydd Gwener 17 Ebrill 2026


Bydd y Prif Hwylusydd yn gweithio gyda'r tîm creadigol craidd a Theatr y Sherman i gynllunio rhaglen o weithgareddau mewn ysgolion, wedi'i theilwra ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7. Byddan nhw’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu adnoddau addysgol ar gyfer disgyblion ac athrawon ac yn goruchwylio’r gwaith o gyflawni’r cynllun ochr yn ochr â’r cydymaith gweithdy. Byddan nhw’n meithrin ymdeimlad o gyffro a chwilfrydedd yn y dysgwyr ac yn eu grymuso i archwilio'r gorffennol, i wneud cysylltiadau â'r presennol ac i ddychmygu’r dyfodol gan ddefnyddio strategaethau ac offer digidol ac yn y byd go iawn. Bydd y Prif Hwylusydd hefyd yn cefnogi’r gwaith o werthuso'r prosiect.


Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg gyda chyfarfodydd, digwyddiadau a gweithdai yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.


Dyddiad Cau: Dydd Gwener 17 Ebrill 2026, 5yh


Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle yma, anfonwch e-bost at francesca.pickard@shermantheatre.co.uk gan egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y byddai eich profiad yn berthnasol i'r prosiect.


Gallwch hefyd ddefnyddio'r cyfeiriad yma os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol am y swydd.


Rydyn ni am i'n tîm adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled y de-ddwyrain. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector ar hyn o bryd.



CYDYMAITH GWEITHDAI – RHAGLEN ALLGYMORTH YSGOLION BALLOON GIRL


  • Llawrydd

  • Cytundeb: Cyfnod Penodol - 6 diwrnod

  • Cyflog: £175 y dydd

  • Dyddiad cau: dydd Gwener 17 Ebrill 2026


Bydd y Cydymaith Gweithdai yn gweithio gyda'r tîm creadigol craidd, Theatr y Sherman a’r Prif Hwylusydd i ddarparu gweithgareddau mewn ysgolion, wedi'u teilwra’n benodol ar gyfer disgyblion ym Mlwyddyn 6 a Blwyddyn 7. Byddan nhw’n meithrin ymdeimlad o gyffro a chwilfrydedd yn y dysgwyr ac yn eu grymuso i archwilio'r gorffennol, i wneud cysylltiadau â'r presennol ac i ddychmygu’r dyfodol gan ddefnyddio strategaethau ac offer digidol ac yn y byd go iawn.


Bydd yr oriau gwaith yn hyblyg gyda chyfarfodydd, digwyddiadau a gweithdai yn cael eu trefnu yn ôl yr angen.


Dyddiad Cau: Dydd Gwener 17 Ebrill 2026, 5yh


Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle yma, anfonwch e-bost at francesca.pickard@shermantheatre.co.uk gan egluro pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd a sut y byddai eich profiad yn berthnasol i'r prosiect.


Gallwch hefyd ddefnyddio'r cyfeiriad yma os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech siarad â rhywun yn anffurfiol am y swydd.


Rydyn ni am i'n tîm adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ledled y de-ddwyrain. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector ar hyn o bryd. Noder, yn unol â'n polisi amgylcheddol, mai dim ond ceisiadau electronig y byddwn yn ymdrin â nhw.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page