Cyhoeddiad Artistiaid: Comisiynau Clip Creadigol
- cerys35
- Mar 18
- 1 min read
Updated: Mar 25
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru wrth ein bodd i gyhoeddi’r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer dau gomisiwn o £1000 yr un i greu celf ddigidol newydd wedi’i ysbrydoli gan Archif Ddarlledu Cymru.
Llongyfarchiadau i Cheryl Beer a Rightkeysonly!
Eco-Gerddolegydd yw Cheryl Beer gyda diddordeb yn y cysylltiad rhwng cerddoriaeth, sain a natur, yn arbennig o fewn ecolegau fregus. Bydd comisiwn Cheryl yn creu darn o gelf ddigidol trwy’r lens o fioamrywiaeth orffennol a bresennol, yn creu’r profiad o forwellt Llanelli, cocos & pigwyr trwy gerddoriaeth wedi’i arwain gan natur, stori bod ddynol a fideo.
Artist E.D.M. yw Rightkeysonly sy'n adnabyddus am ddod â beats arbrofol a baselines trwm i sector cerddoriaeth Cymru. Bydd comisiwn Rightkeysonly yn creu darn o waith clywedol-gweledol sy’n archwilio’r profiad o dyfu i fyny fel gofalwr ifanc yn Ne Cymru, gan ymchwilio cynrychiolaethau hanesyddol yn archif Clip Cymru o fod yn ofalwr ifanc a’r pwysau i fod y ‘homemaker dda’, yn enwedig o ran y disgwyliadau ar fenywod ifanc.