Mae Celfyddydau Anabledd Cymru wrth ein bodd i gyhoeddi'r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer ein Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar, wedi'u ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Llongyfarchiadau i:
Bethan Parry
Ceris Dyfi Jones
Chris Pavlakis
Emily Rose Corby
Naseem Syed
Sage Fontaine
Sara Louise Wheeler
Tina Rogers
Bydd yr artistiaid yn datblygu gwaith gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol, gan weithio gyda gosodiadau celf cyfrwng cymysg, paentio a gludwaith, celf weledol amlgyfrwng, gair creadigol, gosodiad synhwyraidd, cerflunwaith gwaith crosio, cerflunwaith rhyngweithiol gwisgadwy, a mwy i archwilio eu profiadau ac i ddatblygu gwaith wedi'i greu ar y cyd. Bydd y comisiynau’n archwilio amrediad o brofiadau gan gynnwys ADHD, awtistiaeth, gorsensitifrwydd amlsynnwyr, IAP a chyfathrebu, iechyd meddwl, dyslecsia, eco-bryder a’r argyfwng hinsawdd, yn ogystal â chynddeiriogrwydd, llawenydd a chyfeillgarwch.
Mae dau o’r comisiynau yn iaith Cymraeg fel rhan o nod DAC i greu cyfleoedd iaith Cymraeg i’n haelodau.
Diolch yn fawr iawn i bawb a ymgeisiodd. Roedd ansawdd y ceisiadau yn eithriadol. Cawsom bron i 80 o gyflwyniadau ar gyfer yr 8 comisiwn a oedd ar gael, a golygodd hwn bod yn rhaid i’r panel dethol wneud penderfyniadau anodd. Mae'r rownd hon o gomisiynau yn rhan o ymrwymiad parhaus gan DAC i greu cyfleoedd i'n haelodau ac rydym yn annog pawb i ymgeisio eto yn y dyfodol.