Mae Kelly Huxley-Roberts, Lloyds Bank Foundation England and Wales, wedi ysgrifennu blog sy'n amlygu ymdrechion i wella darpariaeth IAP yng Nghymru.
"Mae defnyddwyr IAP byddar yng Nghymru yn wynebu rhwystrau sylweddol i fynediad at gymorth a gwasanaethau ar hyn o bryd. Mae Bil newydd yn bwriadu newid hyn.
Yn ôl adroddiad Anghydraddoldeb Cudd (2021) Prifysgol Abertawe, mae dros hanner miliwn o bobl Fyddar neu drwm eu clyw yng Nghymru, sy’n fwy na phoblogaethau cyfunol Caerdydd ac Abertawe. Er hyn, mae prinder sylweddol o ddehonglwyr IAP yng Nghymru, ac mae pryderon am ansawdd y ddehongli, oherwydd bod dehonglwyr iaith gyntaf wedi'u tangynrychioli yn y proffesiwn.”
Darllenwch y blog gyflawn yma: https://www.lloydsbankfoundation.org.uk/our-impact/news/advocating-for-better-bsl-provision
Gallwch ymateb i'r ymgynghoriad tan 31 Ionawr, a gallwch ymateb yn IAP, Saesneg, neu Gymraeg. Mwy o wybodaeth am ymateb i'r ymgynghoriad.