top of page

Cyngor Celfyddydau Cymru yn agor 5 cronfa newydd i gefnogi prosiectau celfyddydol

  • 6 days ago
  • 1 min read

Awdur: Cyngor Celfyddydau Cymru


Mae Cyngor Celfyddydau Cymru heddiw (13 Ebrill) wedi agor 5 cronfa newydd i gefnogi prosiectau celfyddydol fel rhan o’r newid yn y ffordd mae'n dosbarthu arian celfyddydol gan y Loteri Genedlaethol.


Mae'r newidiadau yn cael eu gwneud ar sail adborth a dadansoddi o’r data diweddaraf gan y sector celfyddydol, sydd wedi rhoi dealltwriaeth ffres a chliriach o ble y gall cefnogaeth benodol wneud y gwahaniaeth mwyaf a diwallu anghenion y sector yn well.


Y 5 cynllun ariannu sydd yn agor heddiw yw:

 

  • Creu ac Ymgysylltu

    Ein rhaglen Creu ond yn symlach - y prif fuddiolwyr yw'r bobl sy'n ymwneud â'r gweithgarwch celfyddydol.


  • Gwyliau

    Rhaglen bwrpasol newydd sy'n ariannu gwyliau â ffocws sy’n digwydd mewn cyfnod penodol ac sy’n cyflwyno rhaglen gelfyddydol fywiog o safon gan gyrraedd y gynulleidfa ehangaf.


  • Ymchwil a Datblygu

    Mae’n cefnogi datblygu a chreu gwaith uchelgeisiol o safon i gyrraedd cynulleidfa’r dyfodol.


  • Ymarfer Creadigol

    Yn cefnogi artistiaid a gweithwyr creadigol yn eu datblygiad a'u dyfodol gan roi amser iddynt arbrofi’n greadigol, tyfu’n broffesiynol a gweithio mewn ffyrdd newydd.


  • Camau Creadigol i unigolion a sefydliadau

    Ar agor i artistiaid a phobl neu sefydliadau creadigol dan arweiniad pobl F/fyddar, anabl, niwroamrywiol neu’n ethnig a diwylliannol amrywiol.


Mae'r holl fanylion a dyddiadau cau i'w gweld ar y tudalennau Ariannu yma.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page