top of page

Cyrsiau cyfrwng-Cymraeg Prifysgol Aberystwyth

  • Mar 17
  • 2 min read

Awdur: Prifysgol Aberystwyth


Caiff y ddau gwrs Cynghanedd eu cyflwyno ar-lein ac maent AM DDIM i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg sy’n byw yng Nghymru!


Cwrs Cynganeddu: Dechrau o’r Dechrau’n Deg gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones


A hoffet ti ddysgu sut i gynganeddu? Am ganrifoedd roedd crefft y beirdd yng Nghymru yn cael ei galw'n 'gyfrinach y beirdd’, ond nid cyfrinach yw hi heddiw!


Bydd y cwrs hwn yn dy alluogi i ddysgu'r rheolau ac i wybod mwy am hanes a datblygiad y grefft. Nid dim ond system sy'n ateb cytseiniaid ac yn odli'r fewnol yw'r gynghanedd, ond dull o greu barddoniaeth sydd yr un mor berthnasol heddiw ag yr oedd hi ganrifoedd yn ôl.


Beth well na chael hwyl yn adnabod crefft anhygoel sy'n gwbl unigryw i'r iaith Gymraeg?


-


Cwrs Cynganeddu: Yr Ail Gam gyda’r Prifardd Ceri Wyn Jones


A wyt ti'n gyfarwydd â rheolau'r gynghanedd, ond heb ddigon o hyder i fynd ati i greu? Neu heb gael cyfle i fynd ati ers blwyddyn neu ddwy, ond yn awyddus i ailafael ynddi? Dyma’r modiwl i ti, felly, sef cwrs cynganeddu fydd yn rhoi’r cyfle i ti ymarfer y grefft yn gyson ac yn caniatáu i ti ddysgu mwy am y gynghanedd fel cyfrwng ac am rai o’i mesurau hi.


Mwy na hynny, mae’n gyfle i gael hwyl wrth wneud hynny.



-


Cyflwyniad i Brintio gyda’r artist Elin Vaughan Crowley (Cwrs un-dydd yn Aberystwyth – dewis o ddau ddyddiad)

Mae’r cwrs hwn yn cynnig taith gynhwysfawr i chi o amgylch dulliau argraffu amrywiol ac yn eich annog i ddatblygu technegau traddodiadol ac arbrofol.


Byddwn yn arbrofi gyda dulliau torlun leino a cholagraff a fydd yn cael eu hymarfer yn gyntaf mewn du a gwyn a'u datblygu mewn lliw.


Mae’r deunyddiau hanfodol yn cael eu darparu.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page