top of page

Artist DAC TanOren: Fforio Trwy Amser & Cynfas

  • cerys35
  • Sep 9, 2025
  • 2 min read

Mae artist DAC TanOren wedi creu 'Quirky Chirky' fel rhan o Fforio Trwy Amser, Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd ac wedi'i ariannu gan y Gronfa Ffyniant Cyffredin drwy Gyngor Bwrdeistref Siriol Wrecsam.


Lluniodd a phaentiodd TanOren bob un o brif dirnodau'r Waun ar bapur dyfrlliw cyn eu trefnu'n collage. Gallwch weld gwaith celf TanOren ar 27 Medi yn Neuadd y Plwyf, y Waun. Bydd y gwaith celf hefyd yn cael ei ychwanegu at wefan Fforio Trwy Amser, lle bydd clicio ar bob un o'r adeiladau yn mynd â chi at atgof.


Bydd Fforio Trwy Amser yn ŵyl i'r teulu sydd am ddim yn Safle Treftadaeth y Byd Camlas a Dyfrbont Pontcysyllte ar 27 a 28 Medi. Yn dilyn llwyddiant Y Bont Sy'n Cysylltu yn 2024, mae digwyddiad eleni yn parhau i rannu a dathlu hanes cyfoethog Y Waun, Trefor, Froncysyllte a Chefn Mawr trwy greadigrwydd, adrodd straeon a phrofiadau cymunedol.


Mwy am Fforio Trwy Amser yma.


Mae TanOren hefyd wedi ysgrifennu erthygl am ei Pheintiad a Chollage o Ferched Llangollen 'Mae Dwy yn well nag Un' ar gyfer Cynfas.



"Mae pawb sy’n byw yn ardal Llangollen yn gwybod am y Ddwy Ferch oedd yn byw ym Mhlas Newydd – Sarah Ponsonby a’r Fonesig Eleanor Butler.


"Dechreuodd fy nghysylltiad i â’r merched yma gyda fy Nain o Ogledd Iwerddon a gyrhaeddodd Langollen ym 1947 gan aros yma am weddill ei hoes. Er fy mod i’n byw bum milltir i ffwrdd yn y Waun, yn ystod yr haf bydden i’n gorfod mynd am ‘wyliau (annioddefol) gyda Nanna Susie’."





Darllenwch yr erthygl ar wefan CELF yma. Gallwch hefyd wylio recordiad o'r erthygl gan TanOren isod:



Mwy am TanOren:

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page