top of page

Deaf Gathering Cymru 2026 yn Chapter

2 days ago
1 min read

Gŵyl dan arweiniad pobl fyddar yng Nghaerdydd yw Deaf Gathering Cymru gyda Deaf Gwdihŵ, Heather Williams a Jonny Cotsen, a Chapter.


Mae’r dathliad tri diwrnod o 6–8 Tachwedd ar agor i bawb, ac yn cynnig rhaglen ddeinamig o ddiwylliant a sgyrsiau gyda safbwyntiau byddar yn ganolog iddi.


Cynhelir y digwyddiad yma gan bobl fyddar ac ar gyfer pobl fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sy’n clywed hefyd. Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal yn Iaith Arwyddion Prydain gyda chyfieithu ar y pryd i'r Saesneg.


Mae Deaf Gathering Cymru yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau, sgyrsiau a pherfformiadau, gyda phopeth o ddawns, trafodaethau a gweithgareddau i’r teulu, i ffilmiau, perfformiadau a chabaret.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
the-national-lottery-fund-white-logo-in-welsh-digital.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page