'Fragments of Us': Lansiad Ffilm-Farddoniaeth Aelod DAC Rachel Carney at g39
- cerys35
- Oct 7
- 1 min read
Updated: 2 days ago
Comisiynwyd Rachel Carney, Aelod DAC, gan SHAPE Arts i greu ffilm-farddoniaeth y llynedd. Mae Rachel bellach yn cynnal lansiad ar gyfer y ffilm, digwyddiad wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd yn g39.
Bydd y lansiad ar ddydd Iau 30 Hydref o 7-9yh. Tocynnau yma.
Mwy am 'Fragments of Us':
Mae ‘Fragments of Us’ yn cyfuno barddoniaeth a ffocws ar y broses o greu, gan fyfyrio ar greadigrwydd yr ymwelwyr a ymatebodd i arddangosfa farddoniaeth ryngweithiol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2022. Mae'r ffilm-farddoniaeth hon yn defnyddio rhai o eiriau gwreiddiol ymwelwyr yr amgueddfa, gan eu cysylltu â'i gilydd mewn ffordd sy'n mynd i’r afael â natur cydweithredol y sgwrs ecffratig barhaus hon. Comisiynwyd gan SHAPE Arts.
Bydd y dathliad hwn yn cynnwys dangosiad ffilm ‘preifat’, gydag opsiynau i gyfrannu eich ymateb creadigol eich hun (os ydych chi’n dymuno gwneud hynny), darlleniadau barddoniaeth ecffrastig a meta-ecffrastig, a sesiwn holi ac ateb fer.
Drysau’n agor am 6.30pm. Bydd bar a byrbrydau.
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn brin, felly cofrestrwch.
Yn cynnwys beirdd gwadd: Sarah Mayo, Alix Edwards, Francesca Murphy, Kathryn Jones...
Mynediad: Mae mynediad heb risiau i’r lleoliad. Dewch o hyd i ragor o fanylion am y lleoliad yma: https://g39.org/cgi-bin/website.cgi?place=infomation Mae modd cadw lleoedd parcio y tu allan i'r adeilad os oes angen drwy e-bostio post@g39.org..
Digwyddiad wedi'i ariannu gan Image Works.